Rhestr Awduron Cymru
ROBERTS, J.O.
Actor ac awdur ei hunangofiant Ar Lwyfan Amser (Gwasg Gwynedd, 2005). Magwyd J. O. Roberts yng nghefn gwlad Ynys Môn, fel ifaciwi o ddinas Lerpwl yng nghyfnod yr Ail Ryfel Byd.
Y ddrama gyntaf iddo gymryd rhan ynddi yn 14 oed oedd Amlyn ac Amig gan Saunders Lewis. Ers hynny mae wedi perfformio mewn nifer helaeth o ddramâu ar lwyfan a theledu ac hefyd wedi portreadu rhai o arwyr y genedl gan gynnwys Owain Glyndŵr. Ymddangosodd mewn rhai o ddramâu a ffilmiau mwyaf Cymru
Cyhoeddiad:
Cyfres y Cewri: Ar Lwyfan Amser (Gwasg Gwynedd, 2005)
Adolygiad:
"Dyma groniclo bywyd llawn, y lleddf a’r llon, yn ddiffwdan ac yn ddifyr."
Gwen Ellis, Gwales.com


