Rhestr Awduron Cymru
ROSSER, SIWAN M.
Awdur. Mynychodd Ysgol Maes Garmon, yr Wyddgrug cyn ennill Gradd Dosbarth Cyntaf yn y Gymraeg yn Aberystwyth. Yno hefyd y bu iddi gwblhau M.Phil gan gymryd ’Golwg ar ganu rhydd Jonathan Hughes, Llangollen’. Aeth ati hefyd i gwblhau PhD, ’Delweddau o ferched ym maledi’r ddeunawfed ganrif – Twm o’r Nant, Elis y Cowper, Huw Jones Llangwm, a Jonathan Hughes, Llangollen’. Mae hi nawr yn ddarlithydd yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd ac yn gyfrifol am yr M.A mewn Astudiaethau Gwerin. Bu Siwan hefyd yn Newfoundland yn gwneud ymchwil ar lên gwerin.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Y Ferch ym Myd y Faled (Gwasg Prifysgol Cymru, 2005)
Cyhoeddiadau Eraill:
Cip ar Faledi Jonathan Hughes, Canu Gwerin, 23, 25-45 (2001)
Jonathan Hughes a Gwerineiddio Llenyddiaeth Gymraeg y Ddeunawfed Ganrif, Y Traethodydd, 235-44 (Hydref, 2001)
Gwerthu Cerddi Saesneg, Tu Chwith, 15, 88-91 (2001)
Adolygiad: Ar Lafar ei Wlad, Taliesin, 119, 152-5 (Haf, 2001)
Gweithgareddau gyda Barddoniaeth, Y Tiwtor, 31-3 (Haf, 2003)
Adolygiad Ar Dafod Gwerin: Penillion Bob Dydd, Taliesin, 125, 151-153 (Haf, 2005)
Baledi’r Ffin: Golwg ar ddylanwad y ffin ar faledi’r ddeunawfed ganrif, Canu Gwerin, 28, 3-19 (Haf, 2005)
Bardd Pengwern: Detholiad o Gerddi Jonathan Hughes Llangollen (gol) (Barddas, 2007)
Cymwys yng nghwmni prydyddion? Merched a diwydiant argraffu baledi’r ddeunawfed ganrif, Llên Cymru, 30, 161-177 (2007)
Lladron a beirniaid llên: astudio baledi’r ddeunawfed ganrif, Studia Celtica XLI, 185-98 (2007)
Baledi Newyddiadurol Elis y Cowper, Cof Cenedl XXIII (2008)


