Rhestr Awduron Cymru
DAFIS, CYNOG
Awdur ei hunangofiant, Mab y Pregethwr (Y Lolfa, 2005) . Bu’n weithgar gydag Adfer, Cymdeithas yr Iaith, yr ymgyrch dros addysg Gymraeg a Phlaid Cymru, ac enillodd fuddugoliaeth yng Ngheredigion yn etholiad 1992. Treuliodd gyfnod yn Senedd Llundain pan enillwyd datganoli i Gymru, ac fel AC yn nymor cyntaf y Cynulliad.
Cyhoeddiad:
Mab y Pregethwr (Y Lolfa, 2005):
Adolygiadau:
“Mae hwn yn hunangofiant gonest a dwys, hynod ddiddorol, sy'n delynegol ar adegau.” Siân Edwards, Taliesin Haf 2006

Mab y Pregethwr (Y Lolfa, 2005)
Hunangofiant llawn a gonest un o wleidyddion craffaf a mwyaf dylanwadol Cymru: darllen hanfodol i bawb sy'n ymddiddori ym mrwydrau ieithyddol a pholiticaidd yr hanner canrif diwethaf.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.


