Rhestr Awduron Cymru

BROWN, BECA

Beca Brown
Awdures, cyfarwyddwr a chyflwynydd teledu, a cholofnydd i gylchgrawn Barn.  Yn wreiddiol o Ddyffryn Ardudwy, Sir Feirionydd a Waunfawr, ger Caernarfon, mae hi nawr yn byw mewn pentref ger Caernarfon. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Corcyn Heddwch yn 2005.


Cyhoeddiad:
Corcyn Heddwch (Gwasg Carreg Gwalch, 2005)


Adolygiadau:

"Dyma nofel llawn hiwmor sydd wedi'i sgwennu'n ddiflewyn-ar-dafod heb fawr o ffrils yn agos ati,"
Iola Jôns, Gwales.com, yn trafod Corcyn Heddwch



Corcyn Heddwch (Gwasg Carreg Gwalch, 2005)
Nofel ysgafn, fywiog, llawn doniolwch sy'n adrodd hynt a helynt Leri Elis, mam ifanc sydd wedi hen flino ar geisio bod yn bopeth i bawb. Mae ganddi ŵr aneffeithiol, Anni fach y babi sy'n mynnu ei sylw, heb sôn am ei mam a'i mam-yng-nghyfraith anobeithiol; a beth am Aron - ar ôl beth y mae hwnnw tybed?
 

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z