Rhestr Awduron Cymru

LASARUS, GWEN


Daw Gwen Lasarus yn wreiddiol o Lanfairpwll, Mon, ac aeth i Ysgol David Hughes. Cymhwysodd  fel athrawes ond ei dewis cyntaf o yrfa oedd actio, a bu’n gweithio’n gyson ar lwyfannau Cymru ac ar gyfresi teledu S4C. Bu ysgrifennu yn rhan o’i bywyd o oedran cynnar, a dros y blynyddoedd llwyddodd i ysgrifennu sawl darn ar gyfer y llwyfan, ambell sgript deledu a cherdd neu ddwy. Bu’n teithio â sioe o’i cherddi Pan ga’i Funud gyda Llio Silyn yn ystod y tair blynedd diwethaf.  Yn Haf 2001 cyhoeddwyd ei nofel gyntaf i bobl ifainc, Sgribls Hogan Flêr (Y Lolfa), ac yn 2004 cyhoeddwyd dilyniant iddi, Snogs a Sgribls Hogan Flêr (Y Lolfa). Ei dylanwadau cynharaf oedd Enid Blyton ac yna Kate Roberts, John Gwilym Jones, Sion Eirian.

Mae Gwen yn gweithio’n rhan amser fel Hyrwyddwraig Llenyddiaeth Gwynedd – cynllun a noddir ar y cyd gan Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Gwynedd. 


Detholiad o Gyhoeddiadau:
Cyfres y Dolffin: Love Hearts i Bosnia (Cwmni Iaith Cyf., 1996)
Sgribls Hogan Fler (Y Lolfa)
Snogs a Scribls Hogan Flêr (Y Lolfa, 2001)
Swshi, Snogs a Scribls Hogan Flêr (Y Lolfa, 2006)
Tinboeth (cyfrol aml-gyfrannol; Gwasg y Bwthyn, 2007)
Nerth Bôn Braich (nofel ar y cyd; Gwasg y Bwythyn, 2008)



Adolygiadau:

"Mae Gwen Lasarus yn ysgrifennu’n ardderchog, yn gallu dweud stori, yn gallu creu deialog naturiol ac ar y cyfan mae’r ysgrifennu’n ddiffuant." Gareth William Jones, Gwales.com, yn trafod Sgribls Hogan Flêr

 

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z