Rhestr Awduron Cymru
JONES, MEINIR PIERCE
Awdur, sy'n trigo yn Nefyn, Pen Llyn, ac yn un o bedwarawd y cwmni cyfieithi A-Pedwar. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf ar gyfer oedolion, Y Gongol Felys (Gwasg Gomer), yn 2005 yn dilyn cyfnod lle bu'n ysgrifennu nifer o lyfrau ar gyfer plant. Enwebwyd Y Gongol Felys arRestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2006.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Modryb Lanaf Lerpwl (Gwasg Gomer, 1991)
Bargen Sion (Gwasg Gomer, 1998)
Y Bychan Benthyg (Gwasg Gomer, 1999)
Y Gongol Felys (Gwasg Gomer, 2005)
Lili Dan yr Eira (Gwasg Gomer, 2008)
Cyfres yr Onnen: Y Cwestiwn Mawr (Y Lolfa, 2010)
Adolygiadau:
"Mae hon yn gamp o nofel sy'n dychryn ar un llaw ac yn ennyn cydymdeimlad ar y llall. Mae'n nofel hefyd sy'n gwneud ichi wenu a chwerthin yn uchel a'r adegau. Mae'n wir werth manteisio ar y cyfle i fynd yn ôl at hen draddodiadau dechrau'r ganrif ddiwethaf ac ymgolli yn stori ddirdynnol merch ifanc o'r cyfnod." Lowri Rees, BBC Cymru'r Byd. yn trafod Y Gongol Felys
Y Gongol Felys (Gwasg Gomer, 2005)
Nofel yn olrhain digwyddiadau ar fferm ym Mhen Llŷn yn 1912 wrth i ferch ddeuddeg oed gofnodi cyffro a siomedigaethau tyfu i fyny ac wrth i gyfrinachau teuluol a fu ynghudd ers blynyddoedd gael eu datgelu'n raddol…
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.


