Rhestr Awduron Cymru

DAFYDD, CATRIN

Gwefan: www.catrindafydd.com
Ebost: catrindafydd@gmail.com
Ewch yma ar gyfer manylion trefnu digwyddiad

Catrin Dafydd gan Catrin Mair HowellsAwdures, dramodydd, bardd a pherfformwraig. Graddiodd Catrin mewn Cymraeg o Brifysgol Cymru Aberystwyth. Enillodd Fedal Lenyddiaeth yr Urdd yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd 2005. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf – Pili Pala gyda Gwasg Gomer yn 2006 a hi yw Uwch–Olygydd y cylchgrawn Tu Chwith. Cafodd ei phenodi yn fardd preswyl yr Academi yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 2006.

Mae Catrin yn gweithio ar nifer o brosiectau llenyddol, celfyddydol a gwleidyddol gan gynnwys teithio Cymru fel storïwraig gan gynnal gweithdai mewn ysgolion. Hi sy’n perfformio cymeriad Evita Morgan o Batagonia ac mae’n ymweld â gwahanol fudiadau a chymdeithasau yng Nghymru drwy’r flwyddyn. Mae hi’n un o dîm o lenorion sy’n teithio o amgylch Cymru yn perfformio nosweithiau barddonol - Evita a’i Beirdd ac mae’n aelod o Ysgol Farddol Caerfyrddin dan ofal Mererid Hopwood a Tudur Dylan Jones. Darlledwyd ei drama radio gyntaf, Sua’r Gwynt ar Radio Cymru yn Rhagfyr, 2004 a darlledwyd ei drama Plymio yn 2006. Bu ei nofel Saesneg, Random Deaths and Custard, ar rhestr fer gwobr Books to be talked about 2009 gan y Guardian a World Book Day ym Mhrydain. Enillodd Catrin stôl Stomp yr Eisteddfod ym Mlaenau Gwent 2010.

Detholiad o gyhoeddiadau:
Pili Pala  (Gomer 2006)
Crap ar Farddoni (Gwasg Carreg Gwalch, 2006)
Monologau Evita Morgan o Batagonia
Random Deaths and Custard 
(Gomer 2007)
Y Dyn Handi (ar y cyd efo Sion White; Y Lolfa, 2008)
Y Tiwniwr Piano (Gomer, 2009)

Cyhoeddiadau eraill:
Cyfrannydd cyson i Taliesin, Barn a chylchgrawn Barddas
Golygydd Dim Lol – Cylchgrawn Dychanol rhwng 2003 a 2005
Golygydd Tu Chwith – Rhifyn ‘Dur’ (Haf, 2005)
Detholiad o’i cherddi wedi eu cyhoeddi yn Cerddi Caerdydd a Cherddi’r Cymoedd (Gomer 2004 a 2005)
 

Y Tiwniwr PianoY Tiwniwr Piano (Gomer, 2009)
Dyma nofel gyfoes, gignoeth sy'n gogleisio sawl ffin Gymraeg a Chymreig. Wrth i Efan Harry, y tiwniwr di-nod, droi'n sylwebydd answyddogol ar fywydau trigolion ein prifddinas, cawn olwg diflewyn-ar-dafod ar ei holl fynd a dod. Fesul tudlaen fywiog, fentrus, down yn fwyfwy ymwybodol o'r twyll sy'n ganolog i'r cwbwl.
 
Cliciwch ar y clawr i brynu copi

 


Pili Pala (Gomer, 2009)
Dyma nofel am gariad, gwyliau a gwallgofrwydd, am farfalle, ffrindiau a ffawd.

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.







Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z