Rhestr Awduron Cymru
WHITE, ELIZABETH
Ganwyd Elizabeth White yn ne Sir Aberteifi, ac yno y bu’n byw am ran helaeth o’i hoes. Ar o^l mynychu ysgolion cynradd ac uwchradd lleol, astudiodd wyddoniaeth ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Aeth yn ei blaen i fyd ymchwil, gan dreulio peth amser yn Salisbury – locustiaid oedd un o’i meysydd ymchwil. Dychwelodd i Geredigion gan barhau i weithio yn y Weinyddiaeth Sifil. Wedi priodi a magu dau o blant dychwelodd i fyd gwaith gan fwynhau ei chyfnod fel athrawes.
Mae hi bellach wedi ymddeol ac yn byw ym Mlaenporth, lle’n mae’n weithgar iawn ym myd y pethe yn ei chymuned leol. Cyhoeddodd Tai Bach a Thai Mas gyda Chymdeithas Lyfrau Ceredigion yn y flwyddyn 2000.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Tai Bach a Thai Mas (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 2000)
Rats, Pigs and Privies (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 2005)


