Rhestr Awduron Cymru
LLYWELYN, EMYR
Mae Emyr Llywelyn yn un o gymwynaswyr mawr y Gymraeg a'i wreiddiau'n ddwfn yng Ngheredigion. Bu'n athro, awdur, darlithydd, ac ymgyrchydd dros yr iaith. Mae'n byw yn Ffostrasol ac ef yw golygydd Y Faner Newydd.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Hwyl Ysgrifennu (Cwmni Iaith Cyf., 1999)
Crefft Ysgrifennu (Cwmni Iaith Cyf., 1998)
Llwybrau Llên (Y Lolfa, 2005)
Hiwmor y Cardi (Y Lolfa, 2006)
Themáu ein Llên: Blas ar Themáu ein Llenorion (Y Lolfa, 2007)
Cyhoeddiadau Eraill:
Cyfres Celf 2000: Aneurin (gol., Y Lolfa, 2006)
Y Jonesiaid (cyd. efo Rocet Arwel Jones, Y Lolfa, 2006)
20 Stori Fer, Cyfrol 1. (gol., Y Lolfa, 2009)
20 Stori Fer, Cyfrol 2. (gol., Y Lolfa, 2009)
Adolygiadau:
"…mae 'na berlau go iawn yn y gyfrol hon." - Daily Post yn trafod Hiwmor y Cardi
"Dyma gyfrol ddifyr iawn, cyfrol y dylai pob Cardi sy’n gwerthfawrogi hiwmor a doniolwch fod yn berchen arni, yn arbennig felly Gardi oddi cartref fel fi oherwydd y pleser ychwanegol a geir yn sgil yr atgofion ddaw wrth ei darllen." - Roy Davies, Gwales.com, yn trafod Hiwmor y Cardi

Hiwmor y Cardi (Y Lolfa, 2006)
Cyfoeth o straeon wedi eu gwreiddio yn nhir Ceredigion.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.


