Rhestr Awduron Cymru
EVANS, RHYS
Awdur a newyddiadurwr. Ganed Rhys yng Nghaerfyrddin a’i fagu yn Aberystwyth. Cafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth, ac yng Ngholeg Hertford, Rhydychen. Ers dros ddegawd, mae’n gweithio fel newyddiadurwr i BBC Cymru. Enillodd Rhys wobr Llyfr y Flwyddyn 2006 gyd’i gyfrol gyntaf, Gwynfor: Rhag Pob Brad (Y Lolfa, 2005).
Detholiad o Gyhoeddiadau
Gwynfor: Rhag Pob Brad (Y Lolfa, 2005)
Gwynfor Evans - A Portrait of a Pariot (Y Lolfa, 2008)
Adolygiadau:
"Heb os mae hwn yn un o'r bywgraffiadau gwleidyddol gorau i mi ddarllen mewn unrhyw iaith" - Vaughan Roderick
"Mae hanes y dyn arbennig hwn, a greodd y Gymru yr ydym yn byw ynddi heddiw, wedi ei groniclo'n gelfydd iawn yn y cofiant hyfryd hwn." - Dylan Lewis, Clonc
"Ceir yma hefyd ddarlun gonest a chignoeth o'i fywyd personol, gan dreiddio o dan croen yr eicon arwrol i greu portread gafaelgar, cyflawn o wleidydd a thad, meidrolyn a gwr." - A470
"Nid gormodiaith yw galw'r gyfrol yma yn gampwaith - llwyddodd ei hawdur i saernio darlun sy'n gytbwys tra'n finiog, yn gynhwysfawr tra'n ddifyr tu hwnt…" - Dr Richard Wyn Jones
"“Gwerth digamsyniol cyfrol arddechog Rhys Evans yw ateb nifer o gwestiynau sy'n ymwneud â sut a phaham y bu i Gwynfor ymddwyn yn y ffordd y gwnaeth. Cawn yma hanes ffurfiant cymeriad unigryw, cymhleth ac argyhoeddiedig, un a oedd, ar yr un pryd fel petai, yn cynrychioli'r math o Gymro y dymuna nifer fod, heb iddynt wybod yn union paham.”" - Colin Williams, Taliesin Haf 2006
"Camp Rhys Evans yw ei fod wedi cyflwyno astudiaeth ddeallus a threiddgar mewn cyfrol ddarllenadwy a hygyrch. Mae'r arddull newyddiadurol yn gyson a chlir; does dim byd yn ymhonnus yn ei ddull o gyflwyno. Yn hytrach, mae'n tynnu'r darllenydd i mewn ac yn ei arwain ar daith drwy hanes gwleidyddiaeth Cymru yr ugeinfed ganrif." - Beirniaid Llyfr y Flwyddyn 2006
Gwynfor Evans - A Portrait of a Patriot (Y Lolfa , 2008)
Cyfieithiad Saesneg o "Gwynfor: Rhag Pob Brad."
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.
Gwynfor: Rhag Pob Brad (Y Lolfa, 2005)
Enillydd Llyfr y Flwyddyn 2006, dyma garreg filltir bwysig yn hanesyddiaeth Cymru. Ceir yma ddadansoddiad manwl o yrfa gwladgarwr Cymreig pwysicaf yr ugeinfed ganrif, a chronicl hefyd o hanes y gendl dros drigain mlynedd a mwy.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.


