Rhestr Awduron Cymru
JONES, TUDUR DYLAN
Prifardd ac athro. Enillodd Dylan y Gadair am yr ail waith yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau yn 2005. Cafodd ei Gadair gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Colwyn yn 1995. Ganed ef yng Nghaerfyrddin ond symudodd y teulu i Fangor lle’r aeth i ysgol ac yna i’r Brifysgol. Mae Dylan eisioes yn aelod i dim Talwrn y Beirdd, Y Taeogion, gyda Ceri Wyn Jones ac Emyr Davies. Ef hefyd oedd golygydd y gyfrol hardd Trysorfa T. Llew Jones a gyhoeddwyd yn 2004.
Tudur oedd Bardd Plant Cymru 2004–5, ac enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint a’r Cyffiniau 2007.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Adenydd (Barddas, 2001)
Rhywun yn Rhywle: Cerddi Cyntaf i Blant (Gomer, 2005)
Adolygiadau:
"Casgliad cyffrous, felly, o gerddi sydd yn llawn direidi a chyffro, sydd a'u rhythmau a'u hodlau'n tasgu oddi ar y tudalennau gan greu byd arbennig y dychymyg sydd yn llawn direidi a chyffro."
Lowri Rees, BBC Llais Llen, yn trafod Rhywun yn Rhywle
Rhywun yn Rhywle: Cerddi Cyntaf i Blant (Gomer, 2005)
Cyfrol llawn lluniau lliw o gerddi i blant gan Bardd Plant Cymru 2004-2005.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.


