Rhestr Awduron Cymru
DAVIES, SIAN EIRIAN REES
Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2005 gyda’i nofel chyntaf I Fyd Sy Well (Gomer, 2005). Aeth Siân i Goleg Prifysgol Cymru Bangor gan ennill gradd mewn ysgrifennu creadigol a doethuriaeth. Mae hi wedi bod yn diwtor Cymraeg ail-iaith yng Ngholeg Iâl Wrecsam ond mae hi nawr wedi dychwelyd i’w chartref ym Mhwllheli er mwyn cwblhau cwrs yng Ngholeg Menai a chanolbwyntio ar brosiectau creadigol.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
I Fyd Sy Well (Gomer, 2005)
Cysgodion y Coed (Gomer, 2007)
Nerth Bôn Braich (ar y cyd efo Gwen Lasarus, Rhiannon Thomas, Eurgain Haf, Caron Edwards, Annes Glynn a Janice Jones, Gwasg y Bwthyn, 2008)
Cysgodion y Coed (Gomer, 2007)
Byd ysbrydion, cysgodion a grymoedd anghyffredin, byd chwedlau a chredoau sy'n dylanwadu ar fywydau holl drigolion yr ynys siâp deigryn ynghanol y môr, ymhell bell o Gymru
Cliciwch ar y clawr i brynu copi
I Fyd Sy Well (Gomer, 2005)
Enillydd Gwbor Goffa Daniel Owen 2005. Dyma nofel afaelgar sy’n llwyddo i gyfuno ffaith a dychymyg er mwyn adrodd un fersiwn o stori ryfeddol sefydlu Gwladfa Patagonia yn 1865.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.


