Rhestr Awduron Cymru
ROBERTS, LLEUCU
Awdur, a sgriptiwr ar gyfer y radio a theledu. Mae Lleucu wedi byw yn Rhostryfan ers tair blynedd ar ddeg ac yn hanu o ardal Bow Street, Ceredigion.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Iesu Tirion (Y Lolfa, 2005)
Troi Clust Fyddar (Y Lolfa, 2005)
Annwyl Smotyn Bach (Y Lolfa, 2008)
Y Ferch ar y Ffordd (Y Lolfa, 2009)
Cyfres yr Onnen: Stwff - Guto S. Thomas (Y Lolfa, 2010)
Adolygiadau:
"Heb os, dyma nofel anodd ei chategoreiddio, gan awdur sydd wedi creu byd ei hun - byd sy'n adlewyrchiad o'r byd go iawn, efallai, ond un nad yw'n llwyr gydymffurfio ag ef. Byd pigog, anghysurus yw hwn."
Aled Islwyn, Taliesin, yn trafod Troi Clust Fyddar
"Bydd darllenwyr o bob cefndir, yn enwedig rhieni i blant ifanc, yn gallu uniaethu â'r cymeriadau a mwynhau’r nofel yma – a phwy a ŵyr, efallai y gwelwch chi rywun tebyg iawn i chi’ch hun yma, ond i chi edrych yn ofalus."
Iola Jôns, Gwales.com, yn trafod Iesu Tirion
Stwff - Guto S. Thomas (Y Lolfa, 2010)
Mae profiadau'r bachgen pedair ar ddeg mlwydd oed dros gyfnod o rhyw hanner blwyddyn yn mynd i wneud i chi chwerthin yn uchel a cholli ambell ddeigryn yn y nofel hon.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.
Y Ferch ar y Ffordd (Y Lolfa, 2009)
Athro Cymraeg parod i ymddeol yw Glyn ac mae ei wraig barchus, y "Difa", yn hyfforddi partion cerdd dant a llefaru. Cawn yr hanes llawn hiwmor i gyd yn y gyfrol hon.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.
Troi Clust Fyddar (Y Lolfa, 2005)
Nofel yw hon am y rhwystrau sy'n codi wrth i ni ymwneud a'n gilydd, y clymau sy'n caethiwo a'r modd na allwn ddod i adnabod ein gilydd.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.


