Rhestr Awduron Cymru

JAMES, CHRISTINE

Christine JamesBardd, darlithydd a golygydd. Enillodd Goron Eisteddfod Eryri a’r Cyffiniau 2005. Mae hi’n byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel darlithydd yn Adran Gymraeg Prifysgol Abertawe. Graddiodd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth a llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol sydd wedi cael ei sylw pennaf o ran ymchwil bersonol, yn enwedig Cyfraith Hywel ac agweddau ar lenyddiaeth Morgannwg. Mae hi hefyd yn olygydd profiadol gan olygu Cerddi Gwenallt: Y Casgliad Cyflawn (2001). Bu Christine yn gyd-olygydd y cylchgrawn Taliesin am ddeng mlynedd gyda Manon Rhys. Mae Christine yn Gymrawd yr Academi Gymreig. 

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z