Rhestr Awduron Cymru

MEDI, MENNA

Groeslon, Caernarfon, Gwynedd LL54 7TT
Ffôn: 01286 830871
Ffôn Poced: 07775 662761
Ebost: menna@medi44.fsnet.co.uk
Gwefan Cardiau Cyfarchion Cyfres WAhanol: www.cyfreswahanol.co.uk

Menna MediBardd gwlad. Enillodd Ysgoloriaeth Emyr Feddyg i’r awdur mwyaf addawol yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 2001 am bennod gyntaf nofel. Datblygodd yn ddwy nofel feiddgar sef Hogan Horni a Hogan Horni Isio Mwy. Enillodd y gyfrol gyntaf wobr Aur Pur yn Ebrill 2008 am y llyfr mwyaf poblogaidd i gael ei fenthyg o lyfrgelloedd Sir Ddinbych. Ymddangosodd ei cholofnau a'i chyfraniadau llenyddol dros y blynyddoedd yn Y Cymro, Y Dinesydd, Mela, Pais, Llên y Llannau, Byd y Cymro (Lolfa) a Pethe Penllyn. Mae Menna hefyd yn enillydd cenedlaethol ar gasgliad o gerddi addas i gardiau cyfarchion. Datblygodd yn fusnes cardiau llewyrchus a gwerthir mewn siopau drwy Gymru o dan yr enw Cyfres WAhanol. Mae’n enillydd un-ar-ddeg cadair/medal eisteddfodol ac mae'n hoff o gefnogi’r eisteddfodau bach. Bu'n aelod o gwmni drama Licris Olsorts yn Bow Street am bum mlynedd, ac mae bellach yn aelod o gwmni Brynrhos Y Groeslon. Hefyd, sefydlodd ei chwmni drama ei hun yn Nyffryn Nantlle sef Plant Afradlon. Bu’n gweithio i’r BBC am 15 mlynedd yn cyflwyno a chynhyrchu cyfresi amrywiol gan gynnwys dilyn cyrsiau llenyddol Tŷ Newydd. Yna, bu am ddeng mlynedd yn adran Farchnata Cwmni Recordiau Sain, ac mae bellach yn Ymchwilydd Dwy Law Rydd!


Detholiad o Gyhoeddiadau
:
Hogan Horni (Gomer, 2007)
Hogan Horni Isio Mwy (Gomer, 2009)



Hogan Horni Isio Mwy (Gomer, 2009)
Dyma gyfle arall i chi - ac i amryw o rai eraill - ailafael yn Tina Thomas, y newyddiadurwraig nwydwyllt!

Cilciwch ar y clawr i brynu copi.




Hogan Horni (Gomer, 2007)
Dewch i gwrdd â Tina Thomas, newyddiadurwraig rywiol sy'n ymdrechu'n galed i fwynhau bywyd - gyda'r dyn perffaith, neu hebddo

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.






……......

Pynciau a gynigir sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith
:
1. Trafod Cerddi’r Cardiau / Dylanwadau / Sut brofiad oedd sgwennu'r nofelau - mewn Cymdeithasau Llenyddol/Merched y Wawr/Clybiau Ffermwyr Ifanc
2. Gweithdai barddoniaeth mewn ysgolion cynradd / Bl 7 (gwers rydd, mydr ac odl a chyflwyniad syml i’r cynganeddion.)


Bodlon teithio o Amlwch i Aberdâr.
 

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z