Rhestr Awduron Cymru

HALLAM, GWION

Ffôn: 07814 116451
Ebost: gwion.hallam@cwmnida.tv / gwion.hallam@homecall.co.uk
Ewch yma ar gyfer manylion trefnu digwyddiad

Gwion HallamBardd a nofelydd i blant a phobl ifanc, dramodydd a sgriptiwr. Ganed yn Abertawe. Mynychodd Ysgol Gyfun Maes-yr-Yrfa a Phrifysgol Cymru, Aberystwyth. Bu’n byw yn y gogledd ers gadael y brifysgol lle yr astudiodd ysgrifennu creadigol o dan John Rowlands a Mihangel Morgan. Mae wedi sgriptio i’r teledu a’r radio gan ysgrifennu ffilm fer i S4C, Problem Mr Llŷr. Enillodd Coron Eisteddfod yr Urdd Bro Maelor yn 2006. Cyd–awdur y ddrama lwyfan Deinameit a oedd yn olrhain hanes streic hir gweithwyr Friction Dynamex, Caernarfon. 

Enillodd ei nofel gyntaf Creadyn wobr Tir na Nog 2006.

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Brenin y Tonnau (Gomer, 2002)
Caneuon y Coridorau (Gwasg Carreg Gwalch, 2005)
Creadyn (Gomer, 2005)
Odl-Dodl Pobl (Gwasg Carreg Gwalch, 2007)
 

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z