Rhestr Awduron Cymru
RICHARDS, EMLYN
Cafodd Emlyn Richards ei eni a’i fagu yn Llyn. Mae wedi ymgartrefu ar Ynys Môn ers blynyddoedd bellach.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Rolant o Fôn y Bardd–Gyfreithiwr (Gwasg Gwynedd, 1999)
Bywyd Gwr Bonheddig (Gwasg Gwynedd, 2002)
Pregethwrs Môn (Gwasg Gwynedd, 2003)
Cymeriadau Môn (Gwasg Gwynedd, 2004)
O'r Lôn i Fôn: Hunangofiant Emlyn Richards (Gwasg Gwynedd, 2006)
Yr Eglwys a'r Cyfryngau (Gwasg Pantycelyn, 2009)
Adolygiadau:
"Cawn yma berlau a fydd yn aros yng nghof darllenwyr."
John Gwilym Jones, Gwales.com, yn trafod Pregethwrs Môn
"Dyna Emlyn Richards yn y bôn, gŵr bonheddig a'i bersonoliaeth a'i allu fel diddanwr ar lafar ac ar bapur yn disgleirio ar bob tudalen. Ydi, mae hon yn gyfrol sy'n bleser i'w darllen."
John Stevenson, BBC Cymru'r Byd, yn trafod O'r Lôn i Fôn
O'r Lôn i Fôn (Gwasg Gwynedd, 2006)
Hunangofiant hwyliog yr awdur a fu ei hun yn cofnodi'n ddiwyd hanes lliaws o gymeriadau diddorol o Fôn ac o Lŷn. Yn ail rhan y gyfrol ceir saith teyrnged cynnes iddo gan bobl a ŵyr am ei ddoniau amrywiol.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.


