Rhestr Awduron Cymru

BROOKS, SIMON

Simon BrooksAwdur, newyddiadurwr ac academydd. Pan oedd yn 21 oed, sefydlodd y cylchgrawn Tu Chwith ar y cyd ag Elin Llwyd Morgan, a golygodd y rhifynnau cyntaf. Aeth yn olygydd ar Barn wedyn yn 1996 ac aros yn y swydd honno tan 2006. Mae Yr Hawl i Oroesi yn cynnwys detholiad o’i ysgrifau golygyddol yn y cyfnod hwnnw. Yn 2001, bu’n un o’r criw a sefydlodd y mudiad Cymuned, ac ef oedd golygydd Llythyrau at Seimon Glyn.

Bellach, mae’n ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Rhoddwyd ei gyfrol academaidd gyntaf, O Dan Lygaid y Gestapo (astudiaeth o theori lenyddol Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif), ar restr hir Llyfr y Flwyddyn 2005.

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Diwylliant Poblogaidd a’r Gymraeg (Y Lolfa, 1998)
Ceidwadaeth a’r Gymru Newydd (Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 1999)
Llythyrau at Seimon Glyn (gol.), (Y Lolfa, 2001)
O Dan Lygaid y Gestapo (Cyfres y Meddwl a’r Dychymyg Cymreig), (Gwasg Prifysgol Cymru, 2004)
Yr Hawl i Oroesi (Gwasg Carreg Gwalch, 2009)


Yr Hawl i Oroesi (Gwasg Carreg Gwalch, 2009) 
Ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain, Simon Brooks oedd newyddiadurwr mwyaf dadleuol y Gymru Gymraeg. Bu'n lladmerydd croyw dros genedlaetholdeb iaith a chymunedau Cymraeg ac yn sylwebydd gonest ar bynciau mor amrywiol â heddychiaeth, amlddiwylliannedd ac Islam. Yn y gyfrol hon, cyhoeddir detholiad o'i ysgrifau mwyaf trawiadol.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.