Rhestr Awduron Cymru
APOLLONI, DAFYDD
Ar ochr ei dad, mae Dafydd Apolloni yn Eidalwr, neu’n hytrach yn Rhufeiniwr. Ar ochr ei fam, ac o ran magwraeth, Cymro ydyw, wedi’i fagu yn Llanrwst, yn ŵyr i awdur llyfrau Gari Tryfan, y Parchedig Idwal Jones.
Cyhoeddiad:
Roma - Hen Wlad fy Nhadau (Gwasg Carreg Gwalch, 2004)
Roma – Hen Wlad fy Nhadau (Gwasg Carreg Gwalch, 2004)
Yn y gyfrol hon, mae Dafydd Apolloni yn cyfleu bwrlwm y profiad dinesig cyfandirol. Cafodd ysfa i dreulio amser yn Roma, yn cryfhau’i berthynas â’i deulu, yn dod i ddeall y rhan Eidalaidd o ’i fod, ac yn mynd i’r afael âg ymadawiad ei dad â dinas yr haul a’r gwin am Lanrwst yn Nyffryn Conwy.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.


