Rhestr Awduron Cymru

JONES, GERAINT

Astudiodd Geraint Jones ym Mhrifysgol Aberystwyth yn yr 1960au.

Mae'n arweinydd Seindorf Trefor ers dros 45 o flynyddoedd, ac yn llenor medrus. Enillodd ei gyfrol Band yr Hendra, Wmpa–Wmpa! (Gwasg Carreg Gwalch, 2004) gystadleuaeth cyfrol o storiau doniol, cyfoes i oedolion yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Maldwyn a’r Gororau, 2003.


Detholiad o Gyhoeddiadau:
'Rhen Sgŵl (1978)
Cywrain Wŷr y Cyrn Arian (Pwyllgor Seindorf Trefor, 1988)
Dianc i Drybini (1991)
Carchar nid Cartref (Clwb y Bont Pwllheli, 1992)
Hen Gerddorion Eifionydd (Cyngor Sir Gwynedd, 1993) 
Cyrn y Diafol:Golwg ar Hanes Cynnar Bandiau Pres Chwarelwyr Gwynedd (Gwasg Gwynedd, 2004)
Band yr Hendra, Wmpa–Wmpa! (Gwasg Carreg Gwalch, 2004)
Trefor (Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr 2006)
Epil Gwiberod yr Iwnion Jac (Gwasg y Bwythyn, 2009)
Gŵr Hynod Uwchlaw'rffynnon (Gwasg Carreg Gwalch, 2008)
Malcom Allen (Y Lolfa, 2009)


Adolygiadau:

"Dyma i chi hiwmor Cymraeg ar ei orau. Ni fyddai’r gyfrol wedi llwyddo mewn unrhyw iaith arall. Fe’i hysgrifennwyd gan Gymro am Gymry. Creodd sefyllfaoedd a chymeriadau credadwy. A’r iaith. Dyma i chi’r Gymraeg ‘yn ei dillad gwaith’. Cymraeg cyhyrog, llithrig gyda’r geiriau'n tasgu allan o’r tudalennau. Cymraeg rhywiog ac ystwyth gydag ymadroddion a achosodd i mi biffian chwerthin droeon." Lyn Ebenezer, Gwales.com, yn trafod Band yr Hendra, Wmpa-Wmpa!


Band yr Hendra, Wmpa-Wmpa!
(Gwasg Carreg Gwalch, 2004)
Casgliad o chwe stori ddoniol a dychanol am helyntion arweinydd ac aelodau seindorf pentref yr Hafod yng ngogledd-orllewin Cymru a'r elyniaeth rhyngddynt hwy a seindorf pentref cyfagos.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.







Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z