Rhestr Awduron Cymru

LEWIS, MARED

Mared LewisAwdur a dramodydd. Ganed ym Malltraeth Ynys Mon.  Graddiodd yn y Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yna treuliodd gyfnod byr yn Nghaliffornia. Mae hi bellach yn byw yn ôl ar y fam ynys gyda’i gwr a’i dau fab. Enillodd sawl cadair a choron mewn Eisteddfodau ysgol, rhyng-golegol, ac Eisteddfodau lleol a daeth yn ail am y Fedal yn Eisteddfod yr Urdd.

Wedi gweithio fel athrawes Saesneg ac ym myd addysg a busnes, mae hi bellach yn gweithio ar ei liwt ei hun. Mae hi wedi cyfrannu nifer o sgriptiau i gyfresi fel Pobol y Cwm a Rownd a Rownd ac i’r gyfres ddrama radio Rhydeglwys. Darlledwyd pedair drama wreiddiol ganddi ar Radio Cymru. Bu ei nofel, Y Maison Du Soleil, ar Restr Hir Llyfr Y Flwyddyn 2009.


Detholiad o gyhoeddiadau:

Esgid Wag (Gwasg y Dref Wen, 2004)
Ffair Sborion  (Gwasg y Dref Wen, 2007)
Y Maison Du Soleil (Gwasg Gwynedd, 2008)


Cyhoeddiadau Eraill:
Cyfres o erthyglau ar fywyd LA i’r cylchgrawn Mela (1992)
Drws Nesa’i Afallon yn y casgliad Tocyn Tramor ( Y Lolfa, 1997)
Next door to Avalon yn y casgliad A White Afternoon (Parthian Books, 1998) (Darlledwyd hon ar Radio 4 maes o law)
Stori Mr Ben yn y casgliad Sbectol Gam (Y Lolfa, 1996)
Stori Y Trip yn y casgliad Yn nes at baradwys (Gwasg Carreg Gwalch, 2005)
Stori Colli tir yn Taliesin (Haf 2005)
Cyfres Nabod: 1. Gwyrdd fy Myd  (Gwasg Gwynedd, 2010)


Adolygiadau:

"Mae tywydd hafaidd a gwres tanbaid lleoliad y nofel yn llifo o’r tudalennau, gyda disgrifiadau niferus o dirwedd Ffrainc. Dyma nofel a chydymaith addas iawn ar gyfer gwyliau haf." -
Gwenno Dafydd, Gwales.com, yn trafod Y Maison Du Soleil

Y Maison du Soleil gan Mared LewisY Maison Du Soleil (Gwasg Gwynedd, 2008)
Nofel afaelgar ar gyfer oedolion..

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.






Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z