Rhestr Awduron Cymru

LEWIS, CARYL

 

Caryl LewisAwdur ifanc o Ddihewyd, ger Aberaeron. Graddiodd o Brifysgol Durham cyn dychwelyd i Brifysgol Aberystwyth i ennill gradd uwch mewn ysgrifennu. Mae’n ysgrifennu ar gyfer pobl ifainc ac oedolion. Enillodd Iawn Boi? wobr Tir na n–Og 2004 ac enillodd Martha, Jac a Sianco wobr Llyfr y Flwyddyn 2005. Bu ei nofel, Y Gemydd (Y Lolfa, 2007) ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2008 a chyrhaeddodd ei nofel, Naw Mis (Y Lolfa, 2009), Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2010.


 
Detholiad o gyhoeddiadau:
Dal Hi! (Y Lolfa, 2003)
Cyfres Pen Dafad: Iawn Boi? (Y Lolfa, 2003)
Tric y Pic a Mics (Llyfrau Lloerig) (Gwasg Gwynedd, 2004)
Martha, Jac a Sianco (Y Lolfa, 2004) Nawr ar gael ar ffurf Cryno Ddisg – prynwch gopi
Cyfres Pen Dafad: Sgwbid? Aur (Y Lolfa, 2005)
Cyfres Dramâu’r Drain: Yr Ysbryd (Y Lolfa, 2006)
Cyfres Dramâu’r Drain: Arkies (Y Lolfa, 2006)
Y Gemydd (Y Lolfa, 2007)
Cyfres Stori Sydyn: Jackie Jones (Y Lolfa, 2008)
Plu (Y Lolfa, 2008)
Naw Mis (Y Lolfa, 2009)
Cyfres Stori Sydyn: Y Rhwyd (Y Lolfa, 2009)
 

Adolygiadau:
 
"Mae'r rhyddiaith yn eglur, iasol, ac mae'r darlun o berthynas unigolion a'i gilydd ac a'u hamgylchfyd yn gallu cyffwrdd at y byw. Mae'n feistres ar dechneg y "chiaroscuro" - y golau a'r tywyllwch, a'r naill yn diffinio'r llall." - Angharad Price (yn trafod Plu)

"Ar brydiau, fedrwn i ddim credu mod i'n darllen nofel gyfoes, newydd yn y Gymraeg; ro'n i wedi 'nghyffroi ganddi, wedi 'nghythruddo a 'nghorddi, wedi fy nghyfareddu… Wrth nesau at ddiwedd y nofel, fe wnes i hyd yn oed eistedd mewn caffi yn agos at ddagrau wrth sylweddoli bod y cyfan ar ben…" - Elinor Wyn Reynolds, Golwg (yn trafod Martha Jac a Sianco)

"Nofel eithriadol o bwerus sy'n swyno ambell dro ac yn dychryn dro arall." Wil Sam (yn trafod Martha Jac a Sianco)



Naw MisNaw Mis (Y Lolfa, 2009)
Mae'n cymryd naw mis i greu bywyd newydd ond cymer naw mis hefyd i berson farw.. Nofel am ddiflaniad merch yw Naw Mis, ac effaith hynny ar ei theulu a'i chymuned.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.

 


 

Y Gemydd (Y Lolfa, 2007)
Nofel sy’n cyfleu unigrwydd dirdynnol gyda phortreadau grymus o gymeriadau brith sy’n byw ar gyrion cymdeithas.  Dilynir argyfwng Mair, sy’n crafu byw wrth drin a gwerthu gemau a chlirio tai – nes y daw un gem i drawsnewid ei bywyd yn llwyr.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.



 Plu (Y Lolfa, 2008)
Dyma ddeuddeg o storiau cyfareddol sy'n darlunio'r berthynas rhwng dyn a'i gyd-ddyn. Gyda natur yn gefnlen a hwnnw'n newid o dymor i dymor, mae'r plu'n llinyn cyswllt sy'n gwau drwy'r storiau gan oglais a swyno dychymyg y darllenydd.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.

 

 
Martha Jac a Sianco (Y Lolfa, 2004)
Enillydd Llyfr y Flwyddyn 2005. Dyma nofel yn plethu'r cyffredin efo'r dychrynllyd. Mae'r Graig-ddu yn lle brawychus ac amgylchiadau'n carcharu'r trigolion. Mae'r chwaer a'r ddau frawd yn rhai gwerth eu nabod.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.



 

 

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z