Rhestr Awduron Cymru

GEORGE, MARI

Ganed Mari George ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn 1973. Mae’n gweithio’n bennaf ar sgriptiau Pobol y Cwm. Daw o Ben–y–bont ar Ogwr.  Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Gyfun Llanhari a Choleg Prifysgol Cymru Abertawe. Derbyniodd radd MA ar waith Wil IfanEnillodd Fedal Lenyddiaeth a Chadair Eisteddfod yr Urdd yn ogystal â chadeiriau eraill mewn eisteddfodau lleol. Cyhoeddodd nifer o gerddi mewn cylchgronau fel Taliesin a Barddas a chyfrolau cymysg ond Y Nos yn Dal yn Fy Ngwallt (Gomer, 2004) yw ei chasgliad cyntaf o gerddi.Ysgrifennodd am ei phlentyndod a’i haddysg yn Yn Gymysg Oll I Gyd (gol. Hywel Teifi Edwards; Gomer, 2004). Mae’n wyneb adnabyddus yn nosweithiau Stomp yr Eisteddfod ac yn llais cyfarwydd ar Talwrn y Beirdd ar Radio Cymru. Mae’n byw bellach yng Nghaerdydd, ac yn gweithio fel Golygydd Sgriptiau ac Awdur yn Adran Ddrama BBC Cymru. Yn 2011 cyfieithodd rhai o lyfrau Anthony Horowitz i'r Gymraeg efo Tudur Dylan Jones.

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Y Nos yn Dal yn Fy Ngwallt (Gomer, 2004)
Yn Gymysg Oll I Gyd (gol. Hywel Teifi Edwards; Gomer, 2004)
Cyfres Anthony Horowitz (cyf. efo Tudur Dylan Jones, Rily Publications, 2011)



Y Nos yn Dal yn Fy Ngwallt (Gomer, 2004)
Cerddi byrion a chynnil sy'n ymateb yn sylwgar i fywyd prysur heddiw a geir yn y casgliad cyntaf hwn o waith Mari George. Mae Mari'n llwyddo i awgrymu llun ac, o'r awgrym, yn ennyn ymateb pump synnwyr gan y darllenydd. Yn aml mae'n datgelu'r annisgwyl i ni mewn gwrthrychau pob dydd

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.
 

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z