Rhestr Awduron Cymru
GUY, ALUN
Cyn–athro cerddoriaeth, cerddor , arweinydd a beirniad o fri. Mae Alun hefyd yn gweithio fel ymgynghorydd cerdd i ysgolion ag yn Brif Arholwr Cerdd TGAU Cymru. Bu’n aelod o banel cerdd yr Eisteddfod Genedlaethol ers 20 mlynedd. Ef oedd Pennaeth Adran Cerddoriaeth Ysgol Glantaf, Caerdydd rhwng 1978 a 1998. Bu’n arweinydd amrywiol gorau a chymanfaoedd canu ledled Cymru dros y blynyddoedd. Fe’i anrhydeddwyd gyda’r Wisg Wen yng Ngorsedd y Beirdd am ei gyfraniad i gerddoriaeth yng Nghymru.
Yn ei gyfrol Ar Lwyfan Cymru, mae’n cloriannu rhai o gantorion Cymru. Cawn ei farn am ansawdd y lleisiau a natur y perfformwyr. Cawn hefyd gyfle i fynd i gefn y llwyfan, i gael ychydig o’u cefndir a’u hanes.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Cantorion O Fri: Ar Lwyfan Cymru (Gwasg Gomer, 2004)
Cantorion o Fri: Ar Lwyfan y Byd (Gwasg Gomer, 2005)


