Rhestr Awduron Cymru

MORGAN, ELIN LLWYD

Elin Llwyd MorganFe’i ganed ym mhentref Cefn Bryn Brain, cafodd ei magu yn Sir Fôn a bu’n byw hefyd yn Aberystwyth a Chaernarfon. Bellach mae’n byw yn Nyffryn Ceiriog efo’i chymar Peris a’u mab Joel. Yn ei swydd bob dydd cyfieithu y mae Elin, ond yn ogystal bydd hi hefyd yn barddoni, yn adolygu ac yn gohebu. Rhwng y Nefoedd a Las Vegas (Y Lolfa) oedd ei nofel gyntaf.

Bu ei nofel, Mae Llygaid gan y Lleuad (Y Lolfa, 2007) ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2008. 


Detholiad o Gyhoeddiadau:

Duwieslebog (Y Lolfa, 1993)
Tafarnau Cymru (Y Lolfa)
The Seven Wonders of Wales (Y Lolfa, 1993)
Rhwng y Nefoedd a Las Vegas (Y Lolfa, 2004)
Mae Llygaid gan y Lleuad (Y Lolfa, 2007)

Cyhoeddiadau Eraill:
Y Mynydd Hwn - Deg o Ysgrifau am Fynyddoedd (cyfrannwr; Gomer, 2005)


Adolygiadau:

"Drwy greu cymeriadau cryf a stori sy’n cynnal yr holl ffordd drwy’r gyfrol, a hynny mewn arddull rwydd sy’n llifo’n hollol naturiol, mae Elin Llwyd Morgan wedi llunio nofel ardderchog sy’n diddanu a hefyd yn procio. Mwy plîs!"
Catrin Beard, Gwales.com, yn trafod Mae Llygaid gan y Lleuad


"…nofel gyntaf, hyderus a soffistigedig. Mae yna ymwybyddiaeth graff o ymddygiad pobl, o sylwi ar fanylion bychain sy'n dweud cyfrolau."
Caeon Edwards, BBC Cymru’r Byd, yn trafod Rhwng y Nefoedd a Las Vegas


Mae Llygaid gan y LleuadMae Llygaid gan y Lleuad (Y Lolfa, 2007)
Nofel fywiog, ddarllenadwy am brofiadau myfyrwraig nwydus. Cwestiynir y prif gymeriad gan yr Heddlu am ei chyn-gariad sy’n genedlaetholwr amlwg, ond mae’n cael ei dal rhwng sawl meddwl a sawl dyn, cyn iddi orfod ceisio dianc am byth. 

Cliciwch ar y clawr i brynu copi


Rhwng y Nefoedd a Las Vegas (Y Lolfa, 2004)
Ffantasi a realiti am hanes bywyd gwraig sy'n ei chael yn anodd wynebu'r ffaith ei bod hi'n heneiddio.

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.

 

 

 

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z