Rhestr Awduron Cymru
WILLIAMS, ALED JONES
Dramodydd, llenor, bardd. Ganed yn Llanwnda, ger Caernarfon. Addysgwyd yn Ysgol Gynradd Bontnewydd; Ysgol Dyffryn Nantlle, Pen–y–Groes; Coleg y Brifysgol, Bangor; a Choleg Diwynyddol Sant Mihangel, Llandaf. Ordeiniwyd yn offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru 1980. Enillodd wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1994, 1995 a 1996 am ei ddramâu, Dyn Llnau Bogs, Pêl Goch a Cnawd. Lysh oedd Drama Gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 2004. Daeth ei lyfr Rhaid i Ti Fyned y Daith Honno Dy Hun ar restr fer Llyfr y Flwyddyn Cyngor Celfyddydau Cymru 2002. Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002 am y bryddest, Awelon.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Rhaid i Ti Fyned y Daith Honno Dy Hun (Pantycelyn, 2001)
Oerfel Gaeaf Duw: rhyw lun ar hunangofiant crefyddol (Pantycelyn, 2002)
Wal/ Wall (Cymdeithas Ddrama Cymru (2002)
Be’ O’dd Enw Ci Tintin? (Theatr Bara Caws 2003)
Lysh (Theatr Bara Caws 2004)
Ychydig Is Na’r Angylion (Gwasg y Bwthyn, 2006)
Yn Hon Bu Afon Unwaith (Gwasg y Bwthyn, 2008)
Y Cylchoedd Perffaith (Gwasg y Bwythn, 2010)
Dramâu:
Cnawd (Dalier Sylw, 1997)
Pêl Goch (Cwmni Theatr Gwynedd, 1998)
Wal (Cwmni Theatr Gwynedd, 1999)
Sundance (Theatr Bara Caws, 1999)
Fel ’Stafell (Cwmni Bracan, 1999)
Tiwlips (Cwmni Theatr Gwynedd , 2001)
Pryd Fuo’ Kathleen Ferrier Farw? (BBC Cymru, 2002)
Tr-ra Teresa (Cwmni Theatr Cymru 2002)
Be’ O’dd Enw Ci Tintin? (Theatr Bara Caws 2003)
Lysh (Theatr Bara Caws, 2004)
Iesu! (Gwasg Gomer, 2008)
Merched Eira a Chwilys (Gwasg Carreg Gwalch, 2010)
Adolygiadau:
"Mae Aled wedi ysgrifennu rhyddiaith sydd yn hunangofiannol, ond yn y gyfrol hon daw ei brofiadau cymhleth dirdynnol yn gerddi ysbrydol, ysgytwol."
Pryderi Llwyd Jones, Gwales.com, yn trafod Y Cylchoedd Perffaith
"Mae'r awdur hwn yn un o'r rhai prin sy'n herio ei hunan wrth sgrifennu cyn herio'r darllenydd."
Martin Huws, BBC Llais Llen, yn trafodYn Hon Bu Afon Unwaith
"Y mae’n nofel gyfoethog a chywrain, ac os mai’r pwerus sy’n mynd â’ch bryd, fe fydd hon yn gweddu i’r dim!"
Angharad Watkins, Gwales.com, yn trafod Yn Hon Bu Afon Unwaith

Y Cylchoedd Perffaith (Gwasg y Bwthyn, 2010)
Cyfrol cyffesol o farddoniaeth, y cyntaf gan prifardd coronog Eisteddfod Tŷ Ddewi 2002, yn ymwneud â cholli ffydd, alcoholiaeth a gallu ac anallu geiriau i ddygymod â hyn.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.
Yn Hon Bu Afon Unwaith (Gwasg y Bwythyn, 2008)
Nofel am wraig sy'n gwahodd hen gariad yn ôl i'w bywyd i dreulio diwrnod gyda hi. Olrheinir eu perthynas gyfrinachol a ddigwyddodd flynyddoedd yn ôl.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.
Ychydig Is Na'r Angylion (Gwasg y Bwthyn, 2006)
Nofel am ddyn sydd wedi colli ei wraig a dau o'i blant, gan adael iddo i ofalu am fab anabl o'r enw Rhodri…
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.


