Rhestr Awduron Cymru

PHILLIPS, BETHAN

Awdur a hanesydd. Fe’i ganed yn Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion. Addysgwyd yn yr ysgolion lleol a Choleg Prifysgol Cymru, Abersytwyth. Graddiodd mewn Saesneg a Lladin. Bu’n athrawes yn Llundain, Rhymni ac Aberaeron.

Cyfarwyddodd ffilmiau fideo ar gyfer Uned y Cyfryngau, Cyngor Sir Dyfed a gwnaeth ffilmiau ar amryw o ffigurau llên amlwg, megis Islwyn Ffowc Ellis, Waldo Williams a Williams Pantycelyn, yn ogystal â ffilmiau’n ymwneud â gwahanol agweddau ar fywyd y sir. Enillodd wobr y Council for British Archaeology (dan nawdd S4C) am y ffilm Pathways to the Past: The Celts yn 1994. Y mae hefyd yn awdur amryw o sgriptiau ar gyfer y radio a’r teledu ac erthyglau ac adolygiadau niferus mewn papurau a chyfnodolion. Mae Bethan wedi ymddangos ar sawl cyfres deledu megis Dihirod Dyfed (S4C). Gosodwyd Rhwng Dau Fyd, Y Swagman o Geredigion, ei llyfr am hanes Joseph Jennkins, ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Llyfr y Flwyddyn Cyngor y Celfyddydau.


Detholiad o Gyhoeddiadau:
Peterwell, The History of a Mansion and its Infamous Squire. (Gomer 1983; ail arg. 1998)
Dihirod Dyfed. (Hughes a’i Fab 1991)
Ffynonellau (Gwasg Aeron 1991)
Rhwng Dau Fyd, Y Swagman o Geredigion  (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion 1998)
Pity the Swagman (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion. 2002)
Almanac (Hughes a’i Fab 1984)
The History of the Lampeter Agricultural Show. (1987)
The Lovers' Graves - 6 True Tales That Shocked Wales (Gwasg Gomer, 2007)


 Adolygiadau:

"Rhaid canmol Bethan Phillips am ei gwaith ysgubol wrth olygu’r dyddiaduron hyn, ac am eu rhoi o fewn cyrraedd y darllenydd Cymraeg cyffredin. Mae Bethan yn hen law ar dechnegau sgriptio i’r sgrin fach, ac mae sawl man yn y gyfrol hon, fel y bennod agoriadol a’r torri’n ôl ac ymlaen rhwng y llong a Threcefel ar y fordaith adref, sy’n amlygu sgiliau storïol tan gamp. Mae arddull a diwyg cyfanwaith mor werthfawr a chaboledig yn hwyluso’r gwaith darllen drwyddo draw."
Martin Davis, Gwales.com, yn trafod Rhwng Dau Fyd, Y Swagman o Geredigion


Chwilio (2)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z