Rhestr Awduron Cymru
MEREDITH, GRUFFYDD
Awdur rhyddiaith. Fe’i magwyd yn Llanuwchllyn ger y Bala. Mae’n fwy adnbabyddus fel cerddor a rapiwr. Cyhoeddodd bedwar CD, o dan yr enw MC Mabon, ac un llyfr: Dyddiadur Alci Hypocondriac. Cafodd gyfnodau yn byw mewn bedsits ym Mhorthmadog a Chaernarfon yn ddiweddar.
Cyhoeddiad:
Dyddiadur Alci Hypocondriac (Y Lolfa 2002)
Adolygiadau:
"Mae’r naratif yn aflywodraethus, yn frith o fratiaith, ac yn ddisynnwyr ar brydiau, ond y mae hon yn nofel sy’n darllen yn haws na nifer o nofelau 'clasurol' eu naws, a hynny, mwy na thebyg, o ganlyniad i’r ffaith bod yna wirionedd ffraeth yn perthyn iddi."
Fflur Dafydd, Gwales.com
Dyddiadur Alci Hypocondriac (Y Lolfa, 2002)
Dyddiadur unigryw am fywyd yn gaeth i fedsits, alcohol a salwch o bob math..
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.


