Rhestr Awduron Cymru

JONES, TEGWYN

Awdur a chartwnydd. Brodor o Ben–y–bont Rhydybeddau, ger Aberystwyth. Cyn-aelod o staff Geiriadur Prifysgol Cymru.  Graddiodd mewn Cymraeg yn Aberystwyth a dysgu am flwyddyn yn Ystrad Mynach cyn ymuno â’r Geiriadur yn y Llyfrgell Genedlaethol, a gwneud traethawd MA ar ddau gywyddwr cwbl anghofiedig. Ei brif ddiddordebau yw: llenyddiaeth werinol, a llythrennu mewn lliw; arlunio llyfrau plant a chloriau llyfrau; cartwna. Cyfrannodd gartwnau i Barn dan olygyddiaeth Alwyn D. Rees, i’r Faner dan Jennie Eirian a Hafina Clwyd. ac ef yw cartwnydd misol presennol Barn. Ef yw golygydd y gyfres ’Pigion 2000’ (Carreg Gwalch) a ’Cyfres Dymuniadau Da’ (Carreg Gwalch eto). Yn 1993 enillodd Wobr Tir na nÓg ar y cyd â’r artist Jac Jones am Stori Branwen (Gomer).


Detholiad o Gyhoeddiadau
Hen Faledi Ffair (Lolfa 1970)
Tribannau Morgannwg (Gomer 1976)
Baledi Ywain Meirion (Llyfrau’r Faner 1980)
Y Llew a’i Deulu  (Y Lolfa 1982)
Anecdotau Llenyddol (Y Lolfa 1987)
Abel Jones, Bardd Crwst (Carreg Gwalch, 1989)
Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth 1865 (Gomer 1992)
Cyfres Chwedlau o Gymru: Stori Branwen (Gomer, 1993)
A Little Book of Welsh Proverbs (Appletree Press 1996)
Y Babi a’r Inc ac Ati, Cerddi Ysgafn (Y Lolfa 1999)
Fy Annwyl Nai Siôn Owen (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion 2002)
A Little Book of Welsh Proverbs (Appletree Press, 2003)
Ar Dafod Gwerin - Penillion Bob Dydd (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 2004)

Cyhoeddiadau Eraill:
Cyfres Dymuniadau Da (4 cyfrol) (gol; Gomer, 2003)
Cawr i'w Genedl - Cyfrol i Gyfarch yr Athro Hywel Teifi Edwards (gyda Huw Walters; Gomer, 2008)
 

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z