Rhestr Awduron Cymru
JONES, GERAINT V
Nofelydd. Ganwyd a magwyd ef ym Mlaenau Ffestiniog. Ar ôl graddio mewn Cymraeg a Saesneg yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, a threulio cyfnod byr fel pennaeth yr Adran Saesneg yn Ysgol Bryn Alyn, Gwersyllt, Wrecsam, dychwelodd yn 1963 i’w hen ysgol, sef Ysgol y Moelwyn yn y Blaenau, i ddysgu Cymraeg a Saesneg ac i ddod wedyn yn bennaeth Adran y Gymraeg yno.
Deunydd darllen i blant a phobl ifanc oedd ei weithiau cynnar ond yn 1990, yn Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhymni, enillodd Wobr Goffa Daniel Owen gyda’r nofel, Yn y Gwaed. Mae’r rhan fwyaf o’i nofelau i oedolion wedi ymddangos ar ôl iddo ymddeol o’i swydd fel athro a daeth dwy o’r rheini, sef Semtecs (Bro Ogwr 1998) a Cur y Nos (Llanelli 2000), eto i’r brig yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen. Bu hefyd yn cyd–olygu’r gyfrol Yn Fyw Mewn Geiriau (Y Ganolfan Astudiaethau Iaith 1995), sef detholiad o gerddi addas ar gyfer y cwrs TGAU. Ef oedd un o enillwyr cyntaf gwobr Gymru Greadigol Cyngor Celfyddydau Cymru yn 2006.
Detholiad o Gyhoeddiadau
Alwen (Christopher Davies, 1974)
Antur yr Alpau ac Antur yr Allt (Gwasg Gee, 1981)
Storiau’r Dychymyg Du (Gomer, 1986)
Melina (Gomer, 1987)
Yn y Gwaed (Gomer, 1990; adargraffiad 2010)
Semtecs (Carreg Gwalch, 1998)
Asasin (Carreg Gwalch, 1999)
Ar Lechan Lân (Carreg Gwalch, 1999)
Omega (Carreg Gwalch, 2000)
Cur y Nos (Carreg Gwalch, 2000)
Zen (Gwasg Carreg Gwalch, 2004)
The Gates of Hell (Gwasg Carreg Gwalch, 2003)
Ei Uffern ei Hun (Gomer, 2005)
Teulu Lord Bach (Gomer, 2008)
Si Bêi: Helyntion Wil Bach Saer (Gomer, 2010)
Adolygiadau:
(ar gyfer Yn Y Gwaed)
"…nofel wirioneddol afaelgar a darllenadwy...Mae'n stori rymus am bynciau o dragwyddol bwys, wedi'i thraethu mewn dull di-ffrils, digynnwrf...Mae hi'n dal yn fyw yn y cof. Ac mae'r cwestiynau a gyfyd yn dal i ogleisio."
Jane Edwards
"Dyma lenor sy'n ei medru hi. Gall ddewis yr union arddull briodol ar gyfer disgrifio breuddwyd neu greu deialog gref. Mae'i iaith fel petai wedi egino'n naturiol o gymdeithas Gymraeg uniaith. Does dim crafiad na tholc anghyfiaith arni, ac eto nid llyfnder mwyn sy'n ei nodweddu chwaith, ond rhyw arwder cras sy'n gweddu i'w phwnc."
John Rowlands
"Campwaith."
Lyn Ebenezer, Gwales.com
Yn Y Gwaed (Gomer, adargraffiad 2010)
Doedd dim croeso i neb yn Arllechwedd - dyna'r unig ffordd y gallai'r teulu geisio diogelu ei gyfrinachau; ac roedd nifer i'w cadw.. Enillydd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhymni,1990.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.


