Rhestr Awduron Cymru

JARVIS, BRANWEN

Beirniad ac ysgolhaig. Magwyd hi yn Aberdâr ac Ystradgynlais. Graddiodd ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, ac ennill graddau M.A., a Ph.D yn ddiweddarach. Treuliodd gyfnod yn dysgu Gymraeg yn ail iaith cyn cael ei phenodi’n aelod o staff yr Adran Gymraeg yng Ngholeg y Brfysgol, Caerdydd. Symudodd i Fangor yn 1978 ac mae hi bellach yn dal y Gadair Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg yno. Cyhoeddodd astudiaethau beirniadol mewn nifer helaeth o feysydd, o gyfnod y Dadeni Dysg hyd at yr ugeinfed ganrif. Bu galw cyson am ei gwasanaeth fel adolygydd a beirniad eisteddfodol a bu hefyd yn aelod o nifer o gyrff cyhoeddus.

Detholiad o Gyhoeddiadau
Trafod Cerddi (gol.), (Gwasg Taf, 1985)
Goronwy Owen (Gwasg Prifysgol Cymru, 1986)
Llinynnau: Detholiad o Ysgrifau Beirniadol (Gwasg Taf, 1999)
A Guide to Welsh Literature (gol.) (Gwasg Prifysgol Cymru, 2000)

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z