Rhestr Awduron Cymru

HUWS, DAFYDD

Nofelydd a sgriptiwr. Ganed ym Mangor ym 1949 ac fe’i magwyd yn Llanberis. Bu’n athro Cymraeg yn Ysgol Illutud Sant, Caerdydd am ddeunaw mlynedd cyn troi’n awdur amser llawn ym 1989. Ef yw awdur Dyddiadur Dyn Dŵad a’r cyfrolau ddychanol sy’n dilyn yn olrhain hanes Goronwy Jones.

Meddai Lyn Ebenzer (ar Gwales.com): "Syniad gwych fu creu Goronwy Jones. Os bu ecs-pat erioed o fewn ei genedl ei hunan, Goronwy oedd hwnnw. Roedd y Dyn Dŵad yn rhyw fath ar ddatblygiad o Gog ‘Fo a Fe’, rhyw Ephraim Huws a fynychai’r New Ely yn hytrach na chapel Heol Crwys. Pererin mewn anial dir, chwedl yr hen Bantycelyn, na fedrai ddeall ffyrdd y Dinasyddion."

Bu’n ysgrifennu tipyn ar gyfer y teledu yn ddiweddar. Mae’n byw yng Ngwaelod y Garth ac mae’n wr priod a chanddo ddwy ferch.


Detholiad o Gyhoeddiadau
Dyddiadur Dyn Dŵad (Gwasg Carreg Gwalch 1978)
Y Dyn Dŵad: Un Peth 'Di Priodi, Peth Arall Di Byw (Y Lolfa 1990)
Y Dyn Dŵad: Walia Wigli (Y Lolfa, 2004)
Y Dyn Dŵad: Chwarter Call (Y Lolfa, 2005)
Y Dyn Dŵad: Nefar In Ewrop (Y Lolfa, 2010)


Adolygiadau

"Yn nwylo Dafydd Huws trodd dawn y dychanwr yn gelfyddyd. Ceir ganddo glyfrwch geiriol dihafal. Dawn y dychanwr yw rhoi i ni’r gwir mewn gwisg ddieithr, ac mae Nefar in Ewrop yn gyforiog o enghreifftiau perffaith o hyn." Lyn Ebenezer (yn trafod Nefar in Ewrop)

"Pethau prin ar y naw y dyddiau yma yw nofelau Cymraeg sy'n edrych yn dreiddgar ar wleidyddiaeth, cymdeithas a natur y Gymru Gymraeg sydd ohoni, a gwneud i chi chwerthin yn uchel yr un pryd. Os am wneud hynny… mynwch gopi o Walia Wigli. Chewch chi mo'ch siomi!" - Shôn Williams, Western Mail (yn trafod Walia Wigli)

"Dyma gampwaith Cymreig, Cymreigaidd, hollol wleidyddol-anghywir sy'n edrych yn llygad y gwirionedd" - Dafydd Glyn Jones, Ein Gwlad (yn trafod Walia Wigli)


Y Dyn Dwad: Nefar in Ewrop (Y Lolfa, 2010)
Mae Goronwy Jones, yn ei gyfraniad olaf yng nghyfres Y Dyn Dŵad, yn mynd â ni i Ewrop..

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.
 

 

 
 

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z