Rhestr Awduron Cymru

AB OWAIN, ROBIN LLWYD

Ewch yma ar gyfer manylion trefnu digwyddiad

Robin Llwyd ab OwainBardd. Fe’i ganwyd yng Ngwynedd a bu’n brifathro am 12 mlynedd yn Ysgol Llangwm. Trodd i fyd y Rhyngrwyd yn 2000 gan sefydlu Cyfrifiaduron Sycharth. Ei safle ’Rebel ar y We’ oedd y llyfr Cymraeg cyntaf i’w roi ar y we, a hynny yn 1996. Nid yw wedi’i gyhoeddi ar bapur hyd yma; gweler yma. Enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd yn 1979 am awdl i Lywelyn yr Ail a Chadair yr Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bro Delyn yn 1991 am ei awdl ’Merch yr Amserau’.  Sgwenodd Robin hefyd eiriau ar gyfer llawer o ganeuon poblogaidd megis Brenin y Ser (Bryn Terfel), Pedair Oed (Rhys Meirion), Gwin Beaujolais (Trisgell) a Cana o Dy Galon (Steffan Hughes). Mae'r rhain i'w canfod mewn sawl cyfrol o ganeuon wedi'i cyhoeddi gan Y Lolfa.


Detholiad o ganeuon (ar y cyd efo Robat Arwyn):
Iarlles y Ffynnon (Y Lolfa, 1997)
Ceidwad y Gannwyll (Y Lolfa, 1995)

Gwin Beaujolais (Y Lolfa, 1991) 



Ceidwad y Gannwyll (Y Lolfa, 1995)











Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z