Rhestr Awduron Cymru
GRUFFUDD, ROBAT
Y Lolfa, Talybont, Ceredigion SY24 5HE
Ebost: robat@ylolfa.com
Ffôn gwaith: 01970 832 304
Symudol: 07703 163 447
Nofelydd, cyhoeddwr. Ganed yn y Rhondda a’i fagu yn Abertawe. Enillodd, ond gwrthododd radd mewn Athroniaeth a Seicoleg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Yno, yn 1965 y sefydlodd (gyda Penri Jones) y cylchgrawn Lol. Yn 1966 sefydlodd wasg Y Lolfa yn Nhalybont, Ceredigion. Mae’n dal i weithio i’r wasg lle mae dau o’i feibion nawr yn gyfarwyddwyr gweithredol. Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen gyda’i nofel, Y Llosgi; a bu Crac Cymraeg ar restr fer Llyfr y Flwyddyn Cyngor Celfyddydau Cymru. Ei gyfrol ddiweddaraf yw’r casgliad o gerddi, A Gymri di Gymru? (2009).
Mae Robat ar gael i draethu ar y pwnc: “Deugain Mlynedd o Lolian”.
Detholiad o Gyhoeddiadau
Trên y Chwyldro (Y Lolfa, 1978), y cyntaf yng Nghyfres y Beirdd Answyddogol
Y Llosgi (Y Lolfa, 1986)
Crac Cymraeg (Y Lolfa, 1996)
Carnifal (Y Lolfa, 2004)
A Gymri di Gymru? (Y Lolfa, 2009)
Adolygiadau:
"Nid saig pum munud yw hon, ond gwledd cyfoethog." - Meinir Jones, Western Mail (yn trafod Carnifal)
"Mae yma ddarlunio campus a chynnil ar sawl math o berthynas, pob un o'r rheini'n symudol heb ddim y gellir ei gymryd yn ganiataol." - Dafydd Glyn Jones, Gwales.com (yn trafod Carnifal)
A Gymri di Gymru (Y Lolfa, 2009)
Dros drigain o gerddi syml, swynol, dwys a doniol am Gymru ac am fyw.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.
Carnifal (Y Lolfa, 2004)
Nofel ddychanol am rai o fawrion y genedl Gymreig yn crwydro o Fae Caerdydd i garnifalau a chynadleddau Ewropeaidd.
Cilciwch ar y clawr i brynu copi.


