Rhestr Awduron Cymru
GRAMICH (nee JONES), KATIE
Ebost: GramichK@cardiff.ac.uk
Golygydd, beirniad. Ganed Katie yn Rhydlewis, Ceredigion. Astudiodd Saesneg a Llenyddiaeth Sbaeneg ym mhrifysgol Aberystwyth a King’s, Llundain, cyn mynd ymlaen i gwbwlhau doethuriaeth mewn Llenyddiaeth Gymharol ym mhrifysgol Alberta, Canada. Mae Katie wedi dal swyddi academaidd ym mhrifysgolion Abertawe, Coleg y Drindod Caerfyrddin, Portsmouth, a’r Open University. Ar hyn o bryd, hi yw Cadeirydd Cymdeithas Llên Saesneg Cymru (Association for Welsh Writing in English), ac mae hi hefyd yn gyd-olygydd cyfres Honno Classics. Meysydd ei harbenigedd yw llenyddiaeth Cymru (yn y ddwy iaith), ysgrifennu gan fenywod, astudiaethau ôl-drefedigaethol, a chyfieithu. Mae’n Uwch Ddarlithydd Llenyddiaeth Saesneg ym mhrifysgol Caerdydd.
Mae Katie yn Gymrawd yr Academi.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Dangerous Diversity: The Changing Faces of Wales (cyd-olygydd) (Gwasg Prifysgol Cymru, 1998)
Twentieth Century Women’s Writing in Wales: Land, Gender, Belonging (Gwasg Prifysgol Cymru, 2007)
Kate Roberts (Cyfres Writers of Wales) (Gwasg Prifysgol Cymru, 2011)
Cyfraniadau:
Queen of the Rushes (cyd-ol.) (Honno, 1998)
The Rebecca Rioter, Amy Dillwyn (gol.) (Honno, 2001)
Welsh Women’s Poetry 1460-2001: An Anthology (cyd-olygydd) (Honno, 2003)
Almanac: Welsh Writing in English Yearbook: 12 (gol.) (Parthian, 2008)
Mapping the Territories: A Library of Wales Companion (gol.) (Parthian, 2010)
Erthyglau a Phenodau:
’Gorchfygwyr a Chwiorydd: Storïau Byrion Dorothy Edwards a Kate Roberts yn y Dauddegau’ yn Diffinio Dwy Lenyddiaeth Cymru, M. Wynn Thomas (gol.) (Gwasg Prifysgol Cymru, 1995)
’Cymru or Wales?: Explorations in a Divided Sensibility’ yn Studying British Cultures, Susan Bassnett (gol.) (Routledge, 1997)
’Edward Thomas: Geography, Intertextuality, and the Lost Mother’ yn State of Play, Hazel Walford Davies (gol.) (Gomer, 1998)
’Daughters of Darkness: Dylan Thomas and the Celebration of the Female’ yn Dylan Thomas: Contemporary Critical Essays, John Goodby & Chris Wigginton (golygyddion) (Macmillan, 2001)
’The Masquerade of Gender in the Stories of Rhys Davies’ yn Rhys Davies: Decoding the Hare, Meic Stephens (gol.) (Gwasg Prifysgol Cymru, 2001)
’Mirror Games: Self and (M)Other yn the Poetry of R.S. Thomas’ in Echoes to the Amen: The Achievement of R.S. Thomas, Damian Walford Davies (gol.) (Gwasg Profysgol Cymru, 2003)
‘Punks, Pimps and Pub Crooners’ yn To Hell with Culture: Anarchism and 20th-Century British Literature (Gwasg Prifysgol Cymru, 2005)


