Rhestr Awduron Cymru

HUWS, MARTIN

107 Heol Caerdydd, FFYNNON TAF, Rhondda Cynon Taf, CF15 7PN
Ffôn: (029) 20 811413 (cartre), (029) 20 323075 (gwaith)
Ebost: martin@huws1.fsnet.co.uk
Ewch yma ar gyfer manylion trefnu digwyddiad

Martin Huws gan Jeff MorganNofelydd, awdur straeon byrion a newyddiadurwr. Brodor o Gaerdydd. Addysg: Coleg y Brifysgol, Caerdydd, a Phrifysgol Warwick.

Rhwng 1970 a 1980 bu'n glanhau cerbydau trên, yn weithiwr dur, yn swyddog clerigol yn y Swyddfa Gymreig ac yn gweithio mewn popty. Wedyn bu'n ofalwr amgueddfa, yn newyddiadurwr cylchgrawn Golwg ac yn isolygydd y Western Mail cyn newyddiadura ar Y Byd ar Bedwar a Week In Week Out, gan ennill gwobrau Cymreig a Phrydeinig. Erbyn hyn, fe yw Uwchnewyddiadurwr Darlledu gwasanaeth arlein Newyddion Cymru’r Byd.

Darlithydd gwadd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, Caerdydd, ac Adran Newyddiaduraeth, Prifysgol Cymru, Bangor. Mae’n byw yn Ffynnon Taf gyda’i wraig, Nest, a’u merch, Carys.

Cafodd ei nofel 'Mae Heddwch yn Brifo' ganmoliaeth hael yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen. Dywed Harri Pritchard Jones, 'Mae'n waith cyfoethog a chofiadwy, a allai'n hawdd fod wedi ennill.'
 

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Sgrech Rhyfel (Gwasg Carreg Gwalch, 2001)
Cyfres Cip ar Gymru: Caerdydd/Cardiff (Gwasg Gomer, 2001)
Dim Niwed (Gwasg Carreg Gwalch, 2003)
Mae Heddwch yn Brifo (Gwasg Gomer, 2009)


Mae Heddwch yn Brifo (Gwasg Gomer, 2009)
Er gwaetha’r miloedd o filltiroedd rhwng Cymru ac Ynysoedd y Falklands, mae’r ddau le yn dal yn rhy agos i’w gilydd ym meddwl Victor Evans, cyn-filwr ddioddefodd ynghanol erchyllterau ffrwydro’r Sir Galahad…
 
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.




 

Chwilio (2)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z