Rhestr Awduron Cymru
AP HYWEL, ELIN
Bardd a chyfieithydd. Fe’i ganed ym Mae Colwyn. Cafodd ei haddysg brifysgol yng Nghaergrawnt ac Aberystwyth cyn gwneud gwaith ymchwil at radd uwch yn yr Iwerddon. Bu’n gweithio i nifer o sefydliadau Cymrieg cyn troi at weithio ar ei liwt ei hun. Mae’n ymddiddori’n fawr mewn cyfieithu barddoniaeth ac mae fersiynau o gerddi gan Menna Elfyn wedi ymddangos mewn sawl cyfrol. Cyfieithwyd ei gwaith hithau i nifer o ieithoedd gan gynnwys Pwyleg a Siapanaeg. Hi oedd cymrawd dwyieithog cyntaf y Royal Literary Fund ym Mhrifysgol Aberystwyth (2001/02 a 2003/04).
Detholiad o gyhoeddiadau:
Pethau Brau, (Y Lolfa, 1982)
Luminous and Forlorn (golygydd; Honno, 1994)
Power (golygydd; Honno, 1998)
Ffiniau/Borders, (ar y cyd gyda Grahame Davies ), Gomer, 2002
Cerddi yn Oxygen (Seren, 2000)
Cerddi a chyfieithiadau yn The Bloodaxe Book of Modern Welsh Poetry (2003)


