Rhestr Awduron Cymru

OWEN, KAREN

Yn fardd, newyddiadurwraig a golygydd y cylchgrawn Golwg, mae Karen Owen wedi ennill dros 30 o gadeiriau mewn eisteddfodau lleol a thaleithiol a daeth yn agos at y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwy waith, gan gynnwys Eisteddfod Genedlaethol Meifod 2003. Mae’n cynnal dosbarthiadau cynganeddu ac yn gapten tîm talwrn Y Sgwod.


Detholiad o Gyhoeddiadau:
Darlith Flynyddol Llyfrgell Penygroes: O Ben'groes i Beersheba (Adran Addysg a Diwylliant, 2005)
Siarad Trwy'i Het - Cerddi a Ffotograffau (Barddas, 2011)


 
Siarad Trwy'i Het - Cerddi a Ffotograffau (Barddas, 2011)
Yn groes i'r teitl, nid yw Karen Owen yn un sy'n siarad trwy'i het. Ceir yn y gyfrol hon ffotograffau a cherddi yn ymdrin ag amryw o bynciau: o gamerâu cyflymder ac ymgyrch losgi Meibion Glyndŵr.
 

Chwilio (2)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z