Rhestr Awduron Cymru
GLYN, GWYNETH
e-bost: gwynethglyn@hotmail.com
Ewch yma ar gyfer manylion trefnu digwyddiad
Awdur, dramodydd a bardd. Hi oedd Bardd Plant Cymru 2006–7. Ganed yn Eifionydd ac addysgwyd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen yn 2002 (Athroniaeth.a Diwynyddiaeth). Enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd Llyn ac Eifionydd ym 1998, ac ers hynny bu’n sgriptio i’r gyfres deledu Rownd a Rownd, cyhoeddi llyfrau plant a phobl ifanc, ysgrifennu dramâu i Gwmni’r Fran Wen, Theatr Bara Caws a Chwmni’r Arad Goch.
Bu ar dîm y Tywysogion ar Talwrn y Beirdd, a bu’n darllen a chanu ei cherddi ar daith lenyddol yr Academi Un Ces a sawl Lodes Lèn. Mae wedi cyd-weithio ar daith hybu darllen Hei Hogia! ac ar brosiect aml-gyfrwng gyda Dawns i bawb. Darlledir ei drama Radio gyntaf, Dysgu Anadlu fis Rhagfyr 2003. Bu’n cyd-weithio hefo Gai Toms a disgyblion Coleg Meirion-Dwyfor ar y sioe gerdd Set, Drymas a Toilet Rôl, (Chwefror 2004), a bu’n cyfarwyddo ei drama Ar Y Lein i Theatr Bara Caws. Perfformiwyd ei drama Plas Drycin gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2005. Cyhoeddodd ddilyniant i Mewn Limbo, nofel i blant yn eu harddegau a oedd ar restr fer gwobr Tir Na n’Og 2003, sy’n trafod hiliaeth a bwlio, sef Aminah a Minna (Y Lolfa, 2005).
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Stori’r Dydd - detholiad o straeon y Babell Lên (Gwasg Carreg Gwalch, 1999)
Bolwyn yn y Sioe Nadolig (Gwasg Carreg Gwalch, 2000)
Bolwyn a’r Dyn Eira Cas - (Gwasg Carreg Gwalch, 2000)
Gwneud Môr a Mynydd - casgliad ar y cyd (Gwasg Carreg Gwalch, 2000)
Mewn Limbo (Y Lolfa, 2003)
Aminah a Minnau (Y Lolfa, 2005)
Dramâu’r Drain: Deryn mewn llaw…(Y Lolfa, 2006)
Cyfres Pen Dafad: Mewn Limbo (Y Lolfa, 2007)
Maes Terfyn (Sherman Cymru, 2007)
Cerddi'n Cerdded (Gwasg Gomer, 2008)
Cerddi'n Cerdded (Gwasg Gomer, 2008)
Cyfrol o gerddi i blant.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.


