Rhestr Awduron Cymru
ROBERTS, IOAN
Ganwyd Ioan Roberts yn Rhoshirwaun, Llyn ac ar ôl cyfnodau yn Sir Drefaldwyn, Wrecsam a Phontypridd mae’n ôl ym Mhwllheli gyda’i wraig Alwena a’u plant Sion a Lois. Bu’n beiriannydd sifil am gyfnod byr cyn cael gwaith fel newyddiadurwr ar Y Cymro. Bu’n olygydd rhaglen Y Dydd, HTV yn ohebydd newyddion i Radio Cymru ac yn cynhyrchu Hel Straeon a rhaglenni eraill i S4C.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Elfed: Cawr ar Goesau Byr (Y Lolfa, 2000)
Achos y bomiau bach (Gwasg Carreg Gwalch, 2001)
Rhyfel Ni (Gwasg Carreg Gwalch, 2003)
Cymru Geoff Charles: Hanner Canrif o Fywyd Cymru Mewn Llun a Gair (Y Lolfa, 2004)
Cefn Gwlad Geoff Charles (Y Lolfa, 2006)
Eisteddfodau Geoff Charles (Y Lolfa, 2007)
Pobol Drws Nesa (Gwasg Carreg Gwalch, 2008)
Cyhoeddiadau Eraill:
Tân yn fy Nghalon - Hunangofiant Hywel Heulyn (cyd-awdur) (Gomer, 2007)
Adolygiadau:
""Cofnod hanesyddol pwysig… yn wledd i'r llygaid ac yn gyfrol hardd y mae modd ymgolli ynddi gydag edmygedd, gyda phleser, ac, yn anochel – gan mor ddwys yw llawer o'r lluniau – gyda rhywfaint o boen hefyd."
Grahame Davies, BBC Cymru'r Byd, yn trafod Cymru Geoff Charles
"Cyfrol arbennig iawn sydd nid yn unig yn clodfori dawn dihafal ffotograffydd poblogaidd, ond sydd hefyd yn croniclo cefn gwlad Cymru ar ei orau"
Y Cymro yn trafod Cefn Gwlad Geoff Charles
"Heb os, mae wedi pacio ei ddarllenwyr mewn siwtces ac wedi mynd â nhw gydag o ar ei daith. Wedi diweddglo sy'n dod â deigryn i'r llygad, mae'r darllenydd yn ysu am bacio ei fag, neidio i'r car ac anelu am Gaergybi . . . cyn ei bod hi'n rhy hwyr."
Llinos Griffin, Gwales.com, yn trafod Pobol Drws Nesa
Pobol Drws Nesa (Gwasg Carreg Gwalch, 2008)
Argraffiadau ac anecdotau o adnabyddiaeth a theithiau'r awdur â Iwerddon am dros 40 mlynedd.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.
Cefn Gwlad Geoff Charles (Y Lolfa, 2006)
Mae yma ddarlun byw o'r "Hen Ffordd Gymreig o Fyw", ond mae hefyd yn gofnod o ddiwedd cyfnod - a dyna sy'n gwneud y delweddau yma mor bwerus a thrist.
Clicwich ar y clawr i brynu copi.
Cymru Geoff Charles (Y Lolfa, 2004)
Hanes y ganrif ddiwethaf mewn llun a gair, gan gynnwys dros gant o luniau gorau ffotograffydd enwoca'r cyfnod, Geoff Charles.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.


