Rhestr Awduron Cymru

VITTLE, ARWEL

Cafodd Arwel ei fagu yn Sir Gaerfyrddin, ac fe’i addysgwyd yn Ysgol Rhydfelen a Phrifysgol Cymru, Bangor. Erbyn hyn mae’n byw a gweithio fel cyfieithydd yn Arfon.



Detholiad o gyhoeddiadau:
Post Mortem (Y Lolfa, 1995)
Talu’r Pris (Y Lolfa, 2000)
Dial yr Hanner Brawd (Y Lolfa, 2003)
Valentine: Cofiant i Lewis Valentine (Y Lolfa 2006)
Cyfres y Dderwen: Y Dinas Ar Ymyl y Byd (Y Lolfa, 2010)


Adolygiadau:

"Gwyr yr awdur hwn sut i anelu cic. Mawr yw ei gyfle yn y Gymru sydd ohoni" - Dafydd Glyn Jones, Gwales.com yn trafod Dial yr Hanner Brawd

"Dyn yn teilyngu cofiant oedd Lewis Valentine - a dyma gofiant teilwng ohono. Llyfr sy'n darllen fel nofel: llyfr i'w drysori a'i ailddarllen."- Emyr Llywelyn yn trafod Valentine



Valentine: Cofiant i Lewis Valentine (Y Lolfa, 2003)
Gan ddefnyddio ffynonellau heb eu cyhoeddi o'r blaen - y dyddiaduron gwreiddiol a gadwodd Valentine yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a gohebiaeth bersonol rhyngddo a'i deulu a'i gyfeillion D J Williams, Saunders Lewis a Kate Roberts - edrychir ar y dylanwadau crefyddol, gwleidyddol a phersonol a ffurfiodd ei gymeriad.


 

Chwilio (2)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z