Rhestr Awduron Cymru

GLYNN, ANNES

Ewch yma ar gyfer manylion trefnu digwyddiad

Anness Glynn

Nofelydd, awdur llên meicro, lluniwr ambell linell o gynghanedd!  Ganed ym Mrynsiencyn, Ynys Môn ond bu’n byw ym mhentref Rhiwlas ger Bangor ers deg mlynedd ar hugain erbyn hyn.  Graddiodd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac ers hynny bu’n gweithio fel newyddiadurwr, golygydd cylchgrawn i ferched, ymchwilydd radio a theledu a swyddog cyhoeddusrwydd/marchnata i wahanol sefydliadau.  Bu’n gweithio fel cyfieithydd ar ei liwt ei hun ers rhai blynyddoedd bellach.

Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Dilyn Sgwarnog, a enillodd iddi Goron Eisteddfod Môn, yn 2001.  Chwarae Mig oedd ei hail nofel a gyhoeddwyd fel rhan o’r gyfres i ddysgwyr, Nofelau Nawr.  Yn 2004 enillodd y Fedal Ryddiaith am gyfrol o lên meicro, Symudliw, a gyrhaeddodd restr hir Llyfr y Flwyddyn.  Yn 2006 enillodd gystadleuaeth y delyneg yn yr Eisteddfod Genedlaethol a’r wobr gyntaf yng nghystadleuaeth stori fer y cylchgrawn Taliesin am ei stori Dewis, dewis.  Cyhoeddwyd ei haddasiadau o dair cyfrol sylweddol J.L.Styan ar hanes y Ddrama yn 2007.  Mae hi bellach yn gweithio ar drydedd nofel.

Enillydd Cadair Eisteddfod Mon yn 2010 am ddilyniant o gerddi cynganeddol ar y testun Ynni.

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Dilyn Sgwarnog (Gwasg Gwynedd, 2001)
Chwarae Mig (Gomer, 2002)
Symudliw (Gwasg Gwynedd, 2004)
Y Ddrama Gyfoes, J.L Styan (tair cyfrol), addasiad (Gomer, 2007)

Adolygiadau:

"Nofel i’w darllen ar un eisteddiad gan awdur sy’n gwybod i’r dim sut i gynnal a chadw diddordeb, mewn iaith sy’n llifo ac yn blasu fel hen win."
Jane Edwards, yn trafod Dilyn Sgwarnog, Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Môn, 2000

"Mae pob vignette bach cynnil yn tywynnu gan arwyddocâd. ….Sibrwd y mae ac nid gweiddi."
Rhan o feirniadaeth John Rowlands ar Symudliw, Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd a’r Cylch, 2004.

Symudliw (Gwasg Gwynedd, 2004)
Cyfrol arobryn Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd a'r Cylch 2004, yn cynnwys trigain darn llên meicro, pob un yn ymwneud ag amryfal agweddau ar newid.

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.


Chwarae Mig (Gomer, 2002)
Nofel fer gyfoes am ddau gwpwl yn treulio gwyliau yng Nghatalwnia, lle nad yw pethau'n union fel yr ymddangosant ar yr olwg gyntaf, gyda geirfa ddefnyddiol ar gyfer dysgwyr.

Cliciwch ar y clawr i brynu copi. 



Dilyn Sgwarnog (Gwasg Gwynedd, 2001)
Enillydd Coron Eisteddfod Môn, yn 2001.Nofel ddifyr am ohebydd papur newydd ifanc yn ceisio datrys dirgelwch damwain car pan leddir llanc ifanc, tra hefyd yn ceisio datrys dirgelwch ei bywyd ei hun. 

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.


 

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z