Rhestr Awduron Cymru
DAVIES, DANIEL
Daw Daniel Davies o Lanarth yn wreiddiol ond mae bellach yn byw yn Aberystwyth ac yn gweithio i’r Cambrian News. Mae’n gyd–olygydd i Seren Tan Gwmwl, a bu’n cyfrannu i’r Faner Newydd, Taliesin a Tu Chwith.
Enillodd ei gyfrol Tair Rheol Anrhefn Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro 2011.
Detholiad o gyhoeddiadau:
Pele, Gerson a’r Angel (Y Lolfa, 2001)
Twist ar Ugain (Y Lolfa, 2006)
Gwylliaid Glyndŵr (Y Lolfa, 2007)
Hei-ho! (Y Lolfa, 2009)
Adolygiadau
Ar gyfer Tair Rheol Anrhefn:
"Nofel soffistigedig, gyfoes a llawn hiwmor gan nofelydd sy'n storiwr wrth reddf" - Emyr Llywelyn
"Gwibdaith 'da gynnau… Dyma nofel ddiffwdan, hwyliog a hawdd i'w darllen" - Jon Gower
"Nofel afaelgar gan awdur sy'n gwybod sut i gyflwyno chwip o stori" - Elin Llwyd Morgan
Tair Rheol Anrhefn (Y Lolfa, 2011)
Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2011.
Hei-ho! (Y Lolfa, 2009)
Gwylliaid Glyndŵr (Y Lolfa, 2007)


