Rhestr Awduron Cymru
WYN, HEFIN
Newyddiadurwr ar ei liwt ei hun. Wedi ennill Medalau Rhyddiaith Eisteddfodau Llanbed a Phontrhydfendigaid, a chystadlaethau rhyddiaith yn Eisteddfodau Cenedlaethol Llangefni a Meifod. Brodor o ardal Crymych, Sir Benfro, mae Hefin bellach yn byw ym Maenclochog.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Bowen a’i Bartner: Sion Corn (Hughes a’i Fab, 1986)
Bodio (Gomer, 1979)
Dinas (Hughes a’i Fab, 1990)
Lle Mynno’r Gwynt (Gomer, 1992)
Be Bop a Lula'r Delyn Aur (Y Lolfa, 2002)
Ble Wyt Ti Rhwng? (Y Lolfa, 2006)
Pentigily - Dilyn Llwybr Arfordir Sir Benfro (Y Lolfa, 2008)
Brwydr y Preselau: Yr ymgyrch i ddiogelu bryniau ’sanctaidd’ Sir Benfro 1946-1948 (Clychau Clochog, 2008)
Y Canu Radical Newydd (Cyhoeddiadau Barn Cyf, 2010)
Adolygiadau:
(ar gyfer Ble Wyt Ti Rhwng)
"Mae'n waith aruthrol a fe ddylai gael ei wobrwyo mewn rhyw ffordd, oherwydd mae Hefin wedi gwneud cymwynas a'r genedl fan hyn."
Yr Herald
"…cofnod eithriadol bwysig a fydd, gobeithio, yn codi ymwybyddiaeth pobl ifanc o'r traddodiad roc a phop Cymraeg."
Rhys Mwyn, Y Cymro
"Mae Ble Wyt ti Rhwng? yn adrodd y stori yn onest ac yn frwdfrydig. Dyw Hefin Wyn ddim yn barnu nac yn trio rhoi gormod o sbin bersonol ar yr hanes, ond yn hytrach, mae'n gadael i gymeriadau'r sin ddod trwyddo. Ardderchog!"
Gareth Potter, Golwg
"Mae'r casgliad ar y diwedd yn codi cwestiynau sy'n annog y darllenydd i feddwl a ffurfio barn am ddyfodol ein diwylliant a'n hiaith. Llwyddodd felly i drosglwyddo ei wybodaeth i ni'n hynod o graff, ond hefyd ein hysgogi i ystyried ein tynged."
Rhiannon Heledd Williams, Y Cymro
"Byddwn yn annog unrhyw un sy'n ymddiddori yn y Sîn Gerddoriaeth Gymraeg i'w darllen."
Owain Schiavone, Western Mail
Ble Wyt Ti Rhwng? (Y Lolfa, 2006)
Hanes canu poblogaidd Cymraeg rhwng 1980 a 2000. Llyfr swmpus sy'n adrodd stori'r cythryblus yr SRG mewn cyfnod o newid ac o ddatblygu.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.
Be Bop a Lula'r Delyn Aur (Y Lolfa, 2002)
Llyfr cynhwysfawr llawn lluniau am hanes canu pop Cymraeg, o gyfnod Bob Tai'r Felin i gynnwrf 79.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.
……..............
Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Trafod ar Brwydr y Preselau; yr ymgyrch i ddiogelu bryniau 'sanctaidd' Sir Benfro 1946-1948
2. Pentigily - sgwrs yn seiliedig ar lyfr o'r un enw'n olrhain taith ar hyd llwybr arfordir Sir Benfro
3. Trafod Bebop a Lula'r Delyn Aur neu Ble Wyt Ti Rhwng? - dwy gyfrol yn olrhain hanes a datblygiad adloniant ysgafn a diwylliant roc Cymraeg.


