Rhestr Awduron Cymru
DAVIES, DAMIAN WALFORD
Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, Prifysgol Cymru, Aberystwyth, SY23 3DY
Bardd, beirniad llenyddol a golygydd. Mae’n Ddarllenydd yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ymunodd â’r adran ym 1997. Ef yw cyd-awdur Whiteout (Parthian, 2006), a chyhoeddwyd ei gyfrol gyflawn gyntaf o farddoniaeth, Suit of Lights (un o ddewisiadau ‘Silff Lyfrau’ Cyfnewidfa Lên Cymru ar gyfer 2010) gan Seren yn 2009. Seren fydd yn cyhoeddi ei gyfrol nesaf, Alabaster Girls, yn 2012. Fel academydd, prif feysydd ei ymchwil yw Rhamantiaeth, y cysylltiad rhwng gwleidyddiaeth a llenyddiaeth yn y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, barddoniaeth yr ugeinfed ganrif, a dwy lenyddiaeth Cymru. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn cartograffi llenyddol, ac yn yr amryfal ffyrdd y mae barddoniaeth yn ymateb i weithiau celf.
Ef yw Golygydd Cyffredinol yr Oxford Literary History of Wales, ac roedd yn un o dair beirniad Llyfr y Flwyddyn, 2008.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Waldo Williams: Rhyddiaith (Gwasg Prifysgol Cymru, 2001)
Suit of Lights (Seren, 2009)
Cyhoeddiadau Eraill:
Presences that Disturb: Models of Romantic Identity in the Literature and Culture of the 1790s (Gwasg Prifysgol Cymru, 2002)
Echoes to the Amen: Essays After R. S. Thomas (gol., Gwasg Prifysgol Cymru, 2003)
The Monstrous Debt: Modalities of Romantic Influence in Twentieth–Century Literature (gol. gyda Richard Marggraf Turley, Wayne State University Press, 2006)
Cof ac Arwydd: Ysgrifau Newydd ar Waldo Williams (gol., gyda Jason Walford Davies, Barddas, 2006)
Megalith: Eleven Journeys in Search of StonesI (gol., Gomer, 2006)
Whiteout (gyda Richard Marggraf Turley; Parthian, 2006)
Wales and the Romantic Imagination (gol., gyda Lynda Pratt, Gwasg Prifysgol Cymru, 2007)
Romanticism, History, Historicism: Essays on an Orthodoxy (gol., Routledge, 2008)
Echoes to the Amen - Essays After R. S. Thomas (gol., University of Wales Press, 2009)
Clive Hicks-Jenkins (Lund Humphries, 2011)


