Rhestr Awduron Cymru

HUMPHREYS, EMYR

Mae Emyr Humphreys yn awdur ugain o nofelau, sawl casgliad o straeon byrion a barddoniaeth, ac un gyfrol hanesyddol. Bu’n gyfarwyddwr teledu a theatr, ac fe enillodd wobrau’r Hawthornden a Somerset Maugham am ei waith lenyddol. Enillodd Wobr Llyfr y Flwyddyn ddwy waith, am Bonds of Attachment (Macdonald, 1992) a The Gift of a Daughter (Seren, 1999).

Ganed a magwyd ym Mhrestatyn (1919) a mynychodd ysgol uwchradd yn Rhyl. Er yn ddi-Gymraeg yn ystod ei flynyddoedd cynnar, aeth ati i ddysgu’r iaith yn drylwyr ar ôl llosgi’r ysgol fomio ar Benrhyn Llyn ym 1936. Yn sgil y ddigwyddiad hynny, ysgogwyd ei ddiddordeb yn yr iaith (a’i ddiwylliant) am y tro cyntaf. Aeth ymlaen i astudio hanes ym mhrifysgol Aberystwyth, cyn cychwyn swydd yn y BBC fel cynhyrchydd drama ym 1955. Mudodd i Ogledd-Orllewin Cymru yng nghanol y 1960au a daeth yn ddarlithydd yn yr adran ddrama ym Mangor. Gadawodd y swydd ym 1972 er mwyn canolbwyntio ar ysgrifennu’n llawn-amser.

Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Little Kingdom, ym 1946. Aeth ymlaen i ennill Gwobr Somerset Maugham 1958 am y gyfrol, Hear and Forgive (Gollancz, 1952), a’r Wobr Hawthornden yn yr un flwyddyn am A Toy Epic (Eyre & Spottiswoode, 1958).

Bellach, mae Emyr Humphreys yn byw yn Llanfairpwll, Ynys Môn, ac mae’n parhau i ysgrifennu. Cafodd ei gynnwys yng nghyfres Writers of Wales (Gwasg Prifysgol Cymru) mewn astudiaeth gan Ioan Williams (1980), ac mae nifer o lyfrau wedi’u cyhoeddi yn trafod ei waith, gan gynnwys casgliad o gyfweliadau dan y teitl Dal Pen Rheswm (Gwasg Prifysgol Cymru, 1999) (gol. R.Arwel Jones), Emyr Humphreys: Conversations and Reflections (University of Wales Press, 2004) gan M.Wynn Thomas, ac Emyr Humphreys: The Rigours of Inspection, Poems and Stories (Gwasg Carreg Gwalch, 2005) (gol. Meic Stephens). Cyhoeddwyd gwaith cynhwysfawr yn ddiweddar, gan Diane Green, sef Emyr Humphreys - A Postcolonial Novelist (Gwasg Prifysgol Cymru).

Roedd ei nofel ddiweddaraf, The Woman at the Window (Seren, 2009), ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2010. Mae ef yn Gymrawd yr Academi Gymreig. 


Detholiad o Gyhoeddiadau:

Little Kingdom (1946)
A Change of Heart: A Comedy (Eyre & Spottiswoode, 1951)
Hear and Forgive (Gollancz, 1952)
A Man’s Estate (Eyre & Spottiswoode, 1955)
The Italian Wife (Eyre & Spottiswoode, 1957)
A Toy Epic (Eyre & Spottiswoode, 1958)
The Gift (Eyre & Spottiswoode, 1963)
Outside the House of Baal (Eyre & Spottiswoode, 1965)
Dinas (Llyfrau’r Dryw, 1970)
Ancestor Worship: A Cycle of Eighteen Poems (Gwas Gee, 1970)
National Winner (MacDonald, 1971)
Flesh and Blood (Hodder & Stoughton, 1974)
Best of Friends (Hodder & Stoughton, 1978)
Theatr Saunders Lewis (Astudiaethau Theatr Cymru) (Cymdeithas Theatr Cymru, 1979)
The Anchor Tree (Hodder & Stoughton, 1980)
Miscellany Two (Poetry Wales Press, 1981)
Etifedd Y Glyn (Gomer, 1981)
The Taliesin Tradition: A Quest for Welsh Identity (Black Raven Press, 1983)
Jones: A Novel (Dent, 1983)
Salt of the Earth (Dent, 1985)
Tri Llais (Cyhoeddiadau, 1985)
Absolute Hero (Dent, 1986)
Open Secrets (Dent, 1988)
The Triple Net: A Portrait of the Writer Kate Roberts, 1891-1985 (Channel 4 Television, 1988)
Outside Time (Channel 4 Television, 1991)
Bonds of Attachment (Macdonald, 1992)
Unconditional Surrender (Seren, 1996)
The Crucible of Myth (Darlith Goffa W.D. Thomas)(University of Wales, Swansea, 1999)
The Gift of a Daughter (Seren, 1999)
The Collected Poems of Emyr Humphreys (University of Wales Press, 1999)
Ghosts and Strangers (Seren, 2001)
Old People are a Problem (Seren, 2003)
The Shop (Seren, 2005)
The Woman at the Window (Seren, 2009) 



 

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z