Rhestr Awduron Cymru

HUNTER, JERRY

Jerry HunterDarlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, Bangor. Cyn hynny bu’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd, ac ym Mhrifysgol Harvard, yn yr Unol Daleithiau. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys llen gwerin, y traddodiad barddol Cymraeg, canu cynganeddol cyfoes, y Dadeni Dysg, a’r berthynas rhwng hanes a llenyddiaeth. Cydweithiodd gyda Cwmni Da yn Nghaernarfon ar ddwy gyfres ddogfen hanesyddol ar gyfer S4C. Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn 2004 am ei gyfrol Llwch Cenhedloedd, a chipiodd Gwnenddydd Fedal Rhyddiaith 2010. 

Enwyd Gwenddydd (Gwasg Gwynedd, 2010) ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2011


Detholiad o Gyhoeddiadau:

Soffestri’r Saeson (Gwasg Prifysgol Cymru, 2000)
Llwch Cenhedloedd: Y Cymry a Rhyfel Cartref America (Gwasg Carreg Gwalch, 2003)
I Ddeffro Ysbryd y Wlad - Robert Everett a'r Ymgyrch yn Erbyn Caethwasanaeth Americanaidd (Gwasg Carreg Gwalch, 2007)
Gwenddydd (Gwasg Gwynedd, 2010)


Adolygiadau:

"..mae yma ysgrifennu dirdynnol, cymeriadau cryf, dealltwriaeth dda o feddylfryd anghydffurfiol Cymreig y cyfnod, natur cyfeillgarwch, ynghyd â dawn i ddisgrifio erchylltra rhyfel, yn ogystal â meddwl trofaus milwr sy’n glaf. Dyma gyfrol oedd yn gwbl deilwng o'r Fedal Ryddiaith ac mae'n gyfraniad pwysig i lenyddiaeth ryfel yng Nghymru." -  Dafydd Morgan Lewis, Gwales.com yn trafod Gwenddydd

"Mae Jerry Hunter yn y gwaith hwn wedi codi corff o lenyddiaeth Gymraeg Americanaidd o lwch dinodedd y gorffennol," - Huw Walters, Gwales.com yn trafod Llwch Cenhedloedd

 

Gwenddydd (Gwasg Gwynedd, 2010)
Dyma nofel cyntaf Jerry Hunter i oedolion, yn ymdrin ag effaith yr Ail Ryfel Byd ar un teulu o Gymry Cymraeg. Ceir portread craff o'r ffordd y gall rhyfel ymrwymo teulu at eu gilydd, ond hefyd i'r ffordd y gall eu gwahanu a'u chwalu. Cliciwch ar y clawr i brynu copi





Llwch Cenhedloedd: Y Cymry a Rhyfel Cartref America (Gwasg Carreg Gwalch, 2003)
Ym 1986, dechreuodd Hunter ymchwilio i hanes y Cymry - neu Americanwyr Cymraeg eu hiaith - a'u rhan yn Rhyfel Cartref America. Wedi'i seilio ar amryw o ffynonellau, llwydda'r gyfrol i atgyfodi lleisau'r Cymry-Americanaidd.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi





Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z