Rhestr Awduron Cymru

EDWARDS, SONIA

Sonia EdwardsMae Sonia Edwards yn Brif Lenor yr Eisteddfod Genedlaethol, wedi iddi gipio Medal Ryddiaith 1999 yn Llanbedrgoch, Môn, ac yn awdur toreithiog nifer o gyfrolau o ryddiaith a barddoniaeth.  Mae hi hefyd yn awdur llyfrau plant yn eu harddegau megis ei chyfrol, Uffar o Gosb (Y Lolfa, 2005) sy’n ymdrin â bwlio.

Sonia Edwards hefyd yw awdur Cadwyn o Flodau yn y gyfres i ddysgwyr, Nofelau Nawr. Cyhoeddodd ei nofel ddiweddaraf i oedolion, Mynd Dan Groen (Gomer) yn 2010.


Detholiad o gyhoeddiadau:

Glas ydi’r nefoedd (Gwasg Gwynedd, 1993)
Cysgu ar eithin (Gwasg Gwynedd, 1994)
Gloynnod (Gwasg Gwynedd, 1995)
Llen dros yr haul (Gwasg Gwynedd, 1997)
Rhwng noson wen a phlygain (Gwasg Gwynedd, 1999)
Y Goeden Wen (Gwasg Gwynedd, 2001)
Merch Noeth (Gwasg Gwynedd, 2003)
Elain (Gwasg Gomer, 2003)
Cyfres y Dderwen: Deryn Glân i Ganu (Y Lolfa, 2008)
Mynd Dan Groen (Gomer, 2010)

Adolygiadau:

"Mae’n braf gwybod fod i’r iaith, sy’n marw yn ôl rhai, y gallu i gyffroi ac ysgogi ymateb, a hynny heb y swildod a fu’n llyffethair unwaith." Eigra Lewis Roberts yn trafod Y Goeden Wen (Gwales.com)


Mynd Dan Groen (Gomer 2010)
Fe ddylai David Beresford fod wedi gwrando llai ar ei fam a mwy ar ei wraig.. Nofel newydd gan Sonia Edwards.


Cliciwch ar y clawr i brynu copi.





Y Goeden Wen
(Gomer 2001)
Nofel a ddyfarnwyd yn ail agos yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych 2001.

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z