Rhestr Awduron Cymru

ROBERTS, CEFIN

Cefin RobertsBrodor o Lanllyfni, Dyffryn Nantlle yw Cefin Roberts. Astudiodd yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin a Choleg Cerdd a Drama Caerdydd. Bu’n gweithio i Gwmni Theatr Cymru ym Mangor. Yn 1990 sefydlodd Ysgol Glanaethwy, sef yr ysgol berfformio gyntaf o’i fath yng Nghymru. Yn 2003 fe’i hapwyntiwyd yn Gyfarwyddwr Artistig cyntaf Theatr Genedlaethol Cymru. Enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Môn yn 1988 ac yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi yn 2002. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Meifod 2003 am ei nofel gyntaf Brwydr y Bradwr

Rhestrwyd ei ail nofel, Cymer y Seren (Gwasg Gwynedd, 2009), ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2010.


Detholiad o Gyhoeddiadau:

Brwydr y Bradwr (Gwasg Gwynedd, 2003)
Cymer y Seren (Gwasg Gwynedd, 2009)
Cyfres Syniad Da: Perffaith Chwarae Teg, Ysgol Glanaethwy 1990-2011 (Gwasg Carreg Gwalch, 2011)


Adolygiadau:

"Er mai dim ond ail nofel yr amryddawn Cefin Roberts yw hon, ymddengys fel petai e’n hen law ar y grefft. Fel dyn drama, gŵyr sut mae creu sefyllfaoedd dramatig. Gwelir ei ddawn hefyd yn y modd y gall saernïo golygfeydd a llunio cymeriadau. Ond dawn ddisgleiriaf Cefin i mi yw ei allu i ysgrifennu mewn arddull mor naturiol. Mae ei ddefnydd o dafodiaith yn wirioneddol wych. Mae’r iaith yn gyhyrog ond eto’n ystwyth. Yn wir, ar adegau cefais fy hun yn darllen yn uchel er mwyn mwynhau’r stori’n well fyth."
Lyn Ebenezer, Gwales.com, yn trafod Cymer y Seren



Cymer Y SerenCymer y Seren
(Gwasg Gwynedd, 2009)
Nofel ddirgelwch i oedolion. aIFF Cefin Roberts â ni o bentref bach tawel yn Arfon i un o ddinasoedd llawn rhamant yr Eidal. Mae Emrys Pritchard wedi bod yn ei feio'i hun byth ers diflaniad ei unig ferch, Mari Lisa - cannwyll ei lygad - ac mae pethau wedi mynd o ddrwg i waeth iddo ar ôl i Carys, ei wraig, ei adael.

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.


Brwydr y Bradwr
(Gwasg Gwynedd, 2003)
Cyfrol arobryn y Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2003, sef nofel am fochyn anwes y mae ei gyd-berchyll yn troi eu cefnau arno..

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.