Rhestr Awduron Cymru

LEWIS, GERAINT

Yn hanu o Dregaron, Ceredigion, graddiodd Geraint Lewis mewn Saesneg a Drama yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth ym 1981. Mae wedi bod yn ysgrifennu’n llawn amser ers ugain mlynedd, yn bennaf ar gyfer y teledu ar raglenni poblogaidd fel Pobol y Cwm a Iechyd Da. Cyhoeddwyd tair o’i ddramâu llwyfan, sef Y Cinio, Ysbryd Beca a Dosbarth, yn ogystal â chyfrol straeon byrion Y Malwod, a’r nofel X.

 Llwyddodd ei ail nofel Daw Eto Haul (Carreg Gwalch, 2003) i gyrraedd rhestr hir Llyfr y Flwyddyn yr Academi yn ystod 2004. Cyhoeddwyd ei nofel ddiweddaraf Haf o Hyd yn Nhachwedd 2009.
 

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Y Malwod (Annwn, 1987)
X (Gwasg Carreg Gwalch, 2002)
Daw Eto Haul (Gwasg Carreg Gwalch, 2003)
Haf o Hyd (Gwasg Carreg Gwalch, 2009) 


Adolygiadau:

"Mae'n gyfoes, yn real, yn gredadwy, yn aeddfed ac yn llawn blas y ddinas." - Grahame Davies (BBC, Llais Llen) yn trafod Daw Eto Haul


Haf o Hyd (Gwasg Carreg Gwalch, 2009)
Mae Trystan a'i gyfaill newydd, Daniel, ill dau wedi cwblhau eu harholiadau ysgol ac mae haf crasboeth 1976 yn ymestyn o'u blaen yn llawn posibiliadau cyffrous..

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.




 

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z